
Arddangosfa: Gofod Gwneuthurwr
Mehefin 10 @ 8:00 am - Gorffenaf 8 @ 5:00 pm

Wedi cychwyn ym mis Ebrill 2021 ac yn dal i fynd heddiw, mae’r Lle Gwneuthurwyr wedi agor ei ddrysau i amrywiaeth eang o artistiaid a gwneuthurwyr – yn cynnwys cydweithredu ag aelodau o Disability Arts Cymru.
Bu pob artist a gwneuthurwr yma am 4 mis gan roi’r cyfle i’r cyhoedd weld eu creadigrwydd ar waith a rhoi cyfle i’r artistiaid eu hunain gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
Mae’r arddangosfa hon yn dangos y gwaith a gynhyrchodd yr artistiai yn ystod eu hamser yma.
Ochr yn ochr â’r rhain mae paentiadau a darluniadau gan yr artist lleol, Emyr Prys Jones. Mae Emyr yn fwyaf adnabyddus am ei waith gwydr lliw, sydd i’w weld mewn sawl lleoliad ar draws gogledd Cymru, yn cynnwys y Stiwt yn Rhosllanerchrugog.
Ymunwch â ni ar gyfer lansiad cyhoeddus Arddangosfa Lle Gwneuthurwr ar ddydd Gwener 9 Mehefin, 5.30pm-7.00pm.
Yna ewch draw i’n ffrindiau yng ngofod celfyddydau cymunedol Wrecsam, Tŷ Cornel. Byddant yn lansio eu harddangosfa Ôl-weithredol yn ddiweddarach y noson honno.
Sgwrs gyda’r Artistiaid:
15.6.2023 – 18.00 Emyr Prys Jones (delivered bilingually)
29. 06.2023 – 18.00 Ffion Pritchard & Menai Rowlands (delivered bilingually)
06.07.2023 – 18.00 Ali Pickard
Delwedd: Ffotograffiaeth Oliver Stephen
Manylion
- Cychwyn:
- Mehefin 10 @ 8:00 am
- Gorffen:
- Gorffenaf 8 @ 5:00 pm
- Categori Digwyddiad :
- Arddangosfeydd