Gwneuthurwyr Sipsiwn
Bydd yr arddangosfa grŵp hon yn archwilio tyfu cymunedol ac amgen mewn ymateb i’r brys cymdeithasol sef newid hinsawdd, ynysigrwydd cymdeithasol, unigrwydd a thlodi bwyd.
Proffilio enghreifftiau o brosiectau Celf Ddefnyddiol/Celf Gymdeithasol gan gynnwys GRAFT; Gardd Aeaf Granby; Diodydd Cwmni, Gardd Gymunedol Coedpoeth ac eraill.
Gan bwysleisio buddion lles natur, bydd yr arddangosfa hefyd yn ddihangfa werdd ffrwythlon a bywiog i ymwelwyr, yn cynnwys yr artistiaid Morag Colquhoun, Owen Griffiths, Jackie Kearsley, Sumuyya Khader, Jonathan LeVay, Ann McCay, Aidan Myers ac Alessandra Saviotti.
Mae’r arddangosfa’n cynnwys dau waith celf newydd a gomisiynwyd gan Ty Pawb ochr yn ochr â gwaith presennol gan artistiaid o Gymru a’r DU.
Rydym hefyd yn falch iawn o allu cyflwyno nifer o weithiau celf a fenthycwyd gan Amgueddfa Cymru. Mae’r rhain gan Graham Sutherland, Maurice de Vlaminck a Dr Harold Drinkwater.
Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys detholiad o eitemau a fenthycwyd gan Amgueddfa Cymru.
Bydd Gardd Gorwelion ar agor o 28 Ionawr tan 8 Ebrill 2023.
Oriau agor yr oriel: 10am-4pm, dydd Llun i ddydd Sadwrn.
Bydd lluniaeth yn cael ei ddarparu gan Fasnachwyr Cwrt Bwyd Tŷ Pawb a Hyb Amlddiwylliannol Gogledd Cymru.
Cynhelir digwyddiad lansio cyhoeddus ddydd Gwener 27 Ionawr, 6.00pm-7.30pm – croeso i bawb.
Yn cyflwyno “NAU, NAU, DOH, CHAAR”: Ôl-sylliad gan yr Artist Amlddisgyblaethol Liaqat Rasul