ANNWN

 

Gwerin, dyfodoliaeth a dianc

26/04/2021 – 26/06/2021
10:00-16:00
Dydd Llun – Dydd Sadwrn
Artistiaid sy'n arddangos

Mae Bwrdd Cynghori Ieuenctid (BCI) newydd Tŷ Pawb wedi bod yn cydweithio â’r artist Harold Offeh fel cyfuniad o artistiaid, gan ddatblygu maniffesto. Mae gweithiau celf, ffilmiau a pherfformiadau, yn meddiannu’r oriel hon ar ffurf arddangosfa sy’n canolbwyntio ar themâu o werin, dyfodolliaeth Cymraeg a dianc.

O 2020 ymlaen, dechreuodd Tŷ Pawb ddatblygu bwrdd cynghori newydd, gan ddefnyddio cyllid o ymgyrch ‘Respond and Reimagine’ Art Fund. Bydd y bwrdd yn grŵp amrywiol a chynhwysol o unigolion 16-25 oed. Gwnaed ymdrech ragweithiol i recriwtio pobl ifanc â nodweddion gwarchodedig, o amrywiaeth o gefndiroedd diwylliannol ac economaidd.

Nod y BCI yw cefnogi pobl ifanc i gael profiad yn sector y celfyddydau, nid yn unig yn Wrecsam ond ledled Cymru. Mae’r BCI hefyd yn anelu at greu deialog, trafodaeth a phrofiadau ystyrlon i feincnodi a chefnogi arfer da. Bydd y Bwrdd hefyd yn helpu i gefnogi gweledigaethau a nodau strategol Tŷ Pawb, ymgysylltiad a rhaglennu i gefnogi gwaith ymgysylltu â phobl ifanc Tŷ Pawb yn well.

Mae Annwn yn rhoi cyfle i’r BCI arddangos eu llais cyfunol, gyda’r Bwrdd yn dweud:

Mae arddangosfa’r BCI yn canolbwyntio ar Ddyfodoliaeth Cymraeg a’i chysylltiadau ag iaith, gwerin a thirwedd. Yn pontio’r dyfodol a’r gorffennol, rydym yn cwestiynu’r potensial i ail-ddychmygu diwylliant Cymreig drwy greu ein byd arallfydol ein hunain – yr Annwn. Wedi’n hysbrydoli gan fytholeg Gymraeg ganoloesol gynnar, rydym yn archwilio’r cysyniad o ddianc mewn cysylltiad â sut rydym ni fel artistiaid yn edrych ar y dyfodol.

Roedd yn bwysig i’r gwaith celf dan sylw gael ei guradu gennym ni fel grŵp cyfunol, a bod y broses greadigol yn adlewyrchu nodau ac ethos ein maniffesto. Mae ein prosiect wedi cynnwys cynnal trafodaethau ar hygyrchedd, gwleidyddiaeth gofal a’r pwysigrwydd o ddad-ddirdoli celf.

Yn yr arddangosfa hon mae detholaeth o arlunwyr o Ogledd Cymru, wedi’u curadu gan y BCI gyda Jonathan Powell, Cyfarwyddwr Oriel Elysium a BEEP Painting Biennial. Mae teitl yr arddangosfa, Annwn, sy’n cyfieithu fel ‘the Otherworld’, yn cael ei ysbrydoli gan fytholeg Cymraeg. Mae’r arddangosfa hefyd yn cymryd ei henw o deitl un o baentiadau Pete Jones, a ddewiswyd i’w harddangos gan y Bwrdd.

Bydd Annwn yn datblygu ac yn trawsnewid yn yr oriel dros y cyfnod arddangos, tra bod taith rithwir sefydlog wedi’i rendro’n ddigidol yn bodoli ar-lein. Wrth i’r arddangosfa ddatblygu, felly hefyd fydd maniffesto a gweledigaeth y BCI ar gyfer eu Tŷ Pawb nhw, gyda mwy o ddigwyddiadau’n cael eu cyhoeddi drwy gydol yr arddangosfa.

Gwnaed Annwn yn bosibl diolch i gefnogaeth gan Art Fund, Cyngor Celfyddydau Cymru, BEEP ac Oriel Elysium, Abertawe, y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Diolch yn arbennig i aelodau’r Bwrdd Cynghori Ieuenctid, Harold Offeh a Jonathan Powell.

Taith Rithiol

Taith rithwir gwbl ryngweithiol o’r arddangosfa.

Cliciwch yma i weld y daith

LLUN / IMAGE: Pete Rogers, ‘Annwn’

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google