Llogi Lleoliad
Ydych chi’n chwilio am leoliad unigryw ac amlbwrpas i gynnal digwyddiad?
Gallwn gynnig ystafelloedd cyfarfod preifat, stiwdios dysgu, lleoedd ar gyfer digwyddiadau mawr, theatr â chyfarpar llawn, sain a goleuadau, cynnig bwyd a diod gwych a llawer mwy!
- Wi-Fi am ddim
- Hygyrchedd llawn
- Dewisiadau Te / Coffi / Arlwyo /Bar/ Bwffe
Gofod Perfformio
Mae ein gofod perfformio gyda lle i eistedd yn ôl-dynadwy o 109 yn berffaith ar gyfer cynadleddau, cyflwyniadau, perfformiadau a digwyddiadau ac mae’n addasadwy i weddu i’ch anghenion.
Gydag offer clyweled integredig ar gael yn ogystal â gofod llawr llawn sbring mae’n berffaith ar gyfer dawns, ioga a mwy.
Sgwâr y Bobl
Mewn ardal fwy cyhoeddus o’r adeilad mae Sgwâr y Bobl yn berffaith ar gyfer partïon pen-blwydd, gweithdai, hyrwyddo cynnyrch, ffeiriau recordiau a llawer mwy.
Mae gan y gofod ei rig goleuo ei hun, taflunydd gyda gwymplen sgrin fawr a bar cyhoeddus ar gais sy’n golygu ei fod yn ofod gwych ar gyfer cerddoriaeth fyw a digwyddiadau.
Ystafell Cyfarfod
Mae ein hystafell gynadledda ar lawr cyntaf Tŷ Pawb a gall ddal hyd at 20 o bobl ar gyfer cyfarfodydd preifat.
Stiwdio Ddysgu
Mae’r gofod hwn wedi’i gynllunio ar gyfer hyd at 20 a gellir ei ddefnyddio ar gyfer ystod o weithgareddau gan gynnwys dosbarthiadau preifat, sesiynau crefft, cyfarfodydd a gweithdai.
Llogi’r Adeilad
Yn ogystal â llogi ystafelloedd unigol, mae ein lleoedd amlbwrpas, bar, cwrt bwyd ac ystafelloedd preifat yn golygu ein bod yn gallu cynnig ystod enfawr o opsiynau llogi lleoliadau wedi’u teilwra i fodloni’ch gofynion. O bartïon pen-blwydd i gynadleddau, ffair swyddi, sioeau ffilm a gweithdai crefft – mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd …
Cysylltwch â ni am fanylion
Defnyddiwch y ffurflen isod neu e-bostiwch roomhiretypawb@wrexham.gov.uk