Amdanom
Mae Tŷ Pawb yn adnodd cymunedol diwylliannol, sy’n dod â’r celfyddydau a marchnadoedd ynghyd o fewn yr un ôl troed.
Mae’r cydfodolaeth hwn yn dathlu arwyddocâd marchnadoedd o fewn treftadaeth ddiwylliannol a hunaniaeth Wrecsam.
Mae Tŷ Pawb wedi’i leoli y tu mewn i hen farchnad dan do a maes parcio aml-lawr yng nghanol tref Wrecsam.
Wedi’i adeiladu’n wreiddiol yn 1990, fe ailagorodd yr adeilad fel Tŷ Pawb yn 2018 yn dilyn prosiect adnewyddu helaeth a gomisiynwyd gan Gyngor Wrecsam, a ddyluniwyd gan y penseiri o Lundain, Featherstone Young, gyda chyllid ychwanegol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.
Mae’r cyfleusterau newydd yn cynnwys oriel gradd 1, stiwdio Gofod Gwnuethurwr, gweithdai cymunedol hyblyg a mannau digwyddiadau – gan gynnwys ‘Lle Celf Defnyddiol’ a Sgwâr y Bobl – gofod perfformio, ystafelloedd cyfarfod, bar, cwrt bwyd a’n marchnad neuadd sy’n gartref i dros 30 o fusnesau lleol, annibynnol.
Ers hynny mae Tŷ Pawb wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am ei gynnig amlweddog celfyddydol/marchnadoedd/cymunedol ac am ddull dychmygus y prosiect o roi pwrpas newydd i adeilad presennol.
Mae’r gwobrau’n cynnwys Medal Aur yr Eisteddfod am Bensaernïaeth (2019), Ôl-ffitio’r Flwyddyn y Architects Journal (2019) a’r Adeilad Diwylliannol Gorau o dan £5m (2019).
Rydym yn ystyried cynhwysiant yn ganolog i genhadaeth Tŷ Pawb wrth i ni anelu at groesawu pobl o bob cefndir i fwynhau a chymryd rhan yn y celfyddydau.
Mae ein rhaglen yn cael ei llywio gan ein hymwneud â mudiad rhyngwladol Arte Util, sy’n ystyried celf fel arf ar gyfer newid cymdeithasol.
Rydym yn cyflwyno rhaglen gyfoes o arddangosfeydd croesawgar a chynhwysol, prosiectau cymdeithasol a pherfformiad byw. Mae’r rhaglen yn pwysleisio sgiliau a chrefft, gan weithio gydag artistiaid newydd a sefydledig o bob cefndir.
Rydym yn cynnig gofod ar gyfer deialog ar bynciau gan gynnwys materion cymdeithasol a dinesig, yr amgylchedd, iechyd, hunaniaeth ddiwylliannol, cynaliadwyedd ac addysg.
Rydym yn credu y gall celf fod yn llawer mwy na rhywbeth i edrych arno neu wylio, credwn y gall celf fod yn arf ar gyfer newid cymdeithasol.
Rhan o’n gweledigaeth unigryw yw’r rhyngweithio rhwng y celfyddydau a marchnadoedd: rydym eisiau harneisio creadigrwydd cynhenid masnachu yn y farchnad, gan archwilio’r hyn sy’n gyffredin rhwng yr hyn sy’n digwydd yn neuadd y farchnad a gwaith artistiaid Tŷ Pawb.


Enillydd y Fedal Aur am Bensaernïaeth 2019


Ôl-ffitio Gorau y Flwyddyn 2019
Adeilad Diwylliannol Gorau dan £5m

Sylw o’r Wasg
Museum of the Year 2022 – Meet our finalists
(Crëwyd proffil Tŷ Pawb ar gyfer Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf)
Tŷ Pawb review – an art gallery that truly is everybody’s house
(Erthygl gan Rowan Williams yn The Guardian, 2018)
Something for everybody: Tŷ Pawb art gallery by Featherstone Young
(Proffil Tŷ Pawb o Architects ‘Journal, 2018)