Cymerwch Ran
Dewch yn rhan o gymuned greadigol lewyrchus Wrecsam.
Gwirfoddoli @ Tŷ Pawb
Cyfleoedd
Clwb Garddio
Lansiwyd gardd do gymunedol Tŷ Pawb fel rhan annatod o brosiect Wal Pawb yr artist Kevin Hunt.
Cymerwch ran gyda’n tîm o arddwyr gwirfoddol i gynnal a datblygu’r cyn ofod maes parcio hwn yn rhywbeth hardd! Bob dydd Gwener 1-3pm, Mawrth-Hydref.
Nid oes angen profiad garddio a chroeso i bawb! Mae mynediad i gadeiriau olwyn ar gael trwy’r maes parcio, a rhaid i rai dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn. Dewch o hyd i ni ar Lefel 2a y maes parcio, neu gallwch gwrdd â ni yn y dderbynfa os nad ydych chi’n siŵr ble i fynd.
Tîm Pawb
Tîm Pawb yw ein tîm gwirfoddolwyr anhygoel yn Tŷ Pawb sy’n cefnogi ein celfyddydau, dysgu, digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol. Mae gwirfoddolwyr Tîm Pawb yn cynorthwyo gyda phopeth o fywiogi yn ein gofod oriel hardd, i gynnal gweithdai crefft yn ystod gwyliau ysgol, i gymryd tocynnau mewn digwyddiadau, a gwneud propiau ac addurniadau ar gyfer ein gweithgareddau teuluol.
I gael mwy o wybodaeth am ymuno â Thîm Pawb, anfonwch e-bost atom: teampawb@wrexham.gov.uk neu galwch heibio un o’n Brecwastau Gwirfoddolwyr chwarterol, dyddiadau isod, gobeithiwn eich gweld chi yno!