Dysgu

Digwyddiadau i Ddod i Deuluoedd a Phlant

Views Navigation

Digwyddiad Views Navigation

Heddiw

Criw Celf a Portffolio

Mae Criw Celf & Portffolio, yn fentrau a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru sydd wedi’u hanelu at bobl ifanc yn ardal Wrecsam rhwng 9 a 18 oed, gyda’r rhaglenni sy’n ceisio meithrin a chefnogi plant a myfyrwyr talentog sy’n caru celf.

A group of primary school aged children holding up their landscape paintings.

Mae Criw Celf yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc sy’n caru celf i gymryd rhan mewn dosbarth meistr celf, ar ddydd Sadwrn, dros gyfnod o chwe wythnos. Mae ein rhaglen dosbarthiadau meistr celf arbennig gydag artistiaid proffesiynol, yn rhoi cyfle i gyfranogwyr: 

  • Gael mynediad i addysg celf ychwanegol manwl ac o ansawdd uchel.
  • Magu a datblygu sgiliau a dealltwriaeth o gelf weledol a chrefft.
  • Dysgu am yrfaoedd o fewn y sector celf a gwneud ffrindiau gyda rhai sydd hefyd yn caru celf!

Mae Portffolio wedi’i anelu at fyfyrwyr 14-18 oed sy’n dymuno cyfoethogi eu profiad mewn celf ac sy’n bwriadu gwneud TGAU neu Safon Uwch mewn celf a dylunio. Gall myfyrwyr gofrestru ar gyfer un neu fwy o weithdai, dan arweiniad artistiaid proffesiynol o ystod o ddisgyblaethau, a fydd yn helpu i ddatblygu sgiliau ac archwilio deunyddiau a thechnegau nad yw pobl ifanc efallai wedi’u profi o’r blaen.

Cysylltwch ag heather.wilson@wrexham.gov.uk am fwy o wybodaeth ar sut i ymgeisio ar gyfer y rhaglenni nesaf sydd ar gael ar gyfer Criw Celf a Phortffolio 2023.  Rydym yn parhau i recriwtio ar gyfer Portffolio 2020 yr Hydref hwn, cysylltwch â ni i gael manylion pellach.

A teenager working on a painting.

Ysgolion, Dysgu Pellach ac Uwch

Rydym yn cynnig teithiau byr am ddim i grwpiau Coleg ac Addysg Uwch gan y Swyddog Dysgu. Mae teithiau estynedig hefyd ar gael, wedi eu teilwrio ar gyfer eich ffocws presennol o astudio ynghyd â gweithdy celf am gost bach fel rhan o’n rhaglen ymweliadau addysgol am hanner neu ddiwrnod llawn i ymdrochi yn Tŷ Pawb a’r arddangosfa bresennol.  Mae ein rhaglen arddangosfa gyffrous yn Tŷ Pawb yn darparu adnodd amrywiol ac ysbrydoledig ar gyfer cefnogi dysgu mewn addysg bellach drwy waith artistiaid eraill.  

Rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith, ewch i’r dudalen Cymryd Rhan am fwy o wybodaeth a sut i ymgeisio. 

Rydym hefyd yn cynnig gweithdai celf arbenigol undydd ar gyfer myfyrwyr tramor fel rhan o’r Rhaglen Ddysgu yn Tŷ Pawb. I gael manylion pellach cysylltwch ag typawb@wrexham.gov.uk

Archebwch ymweliad i’ch dosbarth neu grŵp cymunedol


    Tanysgrifiwch i’r rhestr postio i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein dosbarthiadau a gweithgareddau.

    Privacy Settings
    We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
    Youtube
    Consent to display content from - Youtube
    Vimeo
    Consent to display content from - Vimeo
    Google Maps
    Consent to display content from - Google