PRINT RHYNGWLADOL 2021
Roedd Print Rhyngwladol 2021 yn cynnwys 139 darn o waith celf gan artistiaid o 10 gwlad gan gynnwys yr Almaen, America, Ffrainc, Awstralia, Canada, Rwsia, Gwlad Pwyl a Sbaen.
Daw hyn yn dilyn ymateb aruthrol i alwad agored eleni gyda dros bedwar cant o weithiau celf wedi’u cyflwyno.
Ymhlith yr arddangosfa hon mae yna hefyd waith celf dan sylw artistiaid, ymarferwyr ac addysgwyr o’r Ganolfan Argraffu Ranbarthol i ddathlu ei 20fed Pen-blwydd.
Diolch yn arbennig i noddwyr yr arddangosfa, John Purcell Paper, Canolfan Argraffu Ranbarthol, cylchgrawn Printmaking Today a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Credyd delwedd: Artist gan Graeme Reed
Delwedd: ‘Artist’, Graeme Reed
Enillwyr gwobrau
Dyfarnwyd gwobrau mewn 4 categori. Llongyfarchiadau i’n henillwyr:
Enillydd Gwobr y Beirniaid – Natalia Pawlus
Enillydd Ysgoloriaeth Prawf y Ganolfan Argraffu Ranbarthol – Lucie Graham Smith
Enillydd gwobr Olygyddol Printmaking Today– Paul Davidson
Enillydd Gwobr Papur John Purcell – Sally James Thomas
Enillydd Gwobr y Bobl – Jeff Perks