Wrecsam yw’r Enw
30/06/2018 – 19/08/2018
Sophia Leadill, John Merrill, Marcus Orlandi, Nicholas Pankhurst, Martha Todd a Bedwyr Williams
Mae arddangosfa o’r chwe swfenîr ar thema Wrecsam, a gomisiynwyd gan Tŷ Pawb i gael ei arddangos yn y ganolfan newydd i Farchnadoedd, Cymuned a Chelfyddydau ddiwedd mis Mehefin.
Ym mis Tachwedd 2017 dewiswyd chwe artist gan Tŷ Pawb i ddatblygu swfenîr a ysbrydolwyd gan stori benodol am Wrecsam. Arweiniodd y prosiect at gasgliad amrywiol o arteffactau, o gyhoeddiadau argraffedig i sgarffiau pêl-droed, a chant eu harddangos yn Tŷ Pawb.
Dewiswyd y chwe stori a ysbrydolodd y swfeniriau gan y cyhoedd o restr hir o 25, ac fe’u datblygwyd gan yr artistiaid Sophia Leadill, John Merrill, Marcus Orlandi, Nicholas Pankhurst, Martha Todd a Bedwyr Williams.