Ar Bapur

28/07/2018 – 23/09/2018
Arddangosfa deithiol o Gasgliad Cyngor y Celfyddydau yn cynnwys gwaith ar bapur, allan o bapur neu’n trafod papur gan Roy Lichetenstein, Cornelia Parker, Ceri Richards, Bridget Riley a sawl un arall.

Roedd Ar Bapur yn dangos gwaith artistiaid cyfoes ac artistiaid o’r 20fed ganrif sydd yn gweithio gyda phapur. Roedd yr arddangosfa yn edrych y tu hwnt i greu marciau darluniau ac yn ystyried y deunydd ei hun, gan archwilio sut mae artistiaid wedi defnyddio papur fel ffocws i’w gwaith mewn ffyrdd creadigol ac anarferol.

Mae’r artistiaid yn Ar Bapur yn defnyddio’r papur ei hun fel cyfrwng i’w gwaith ond hefyd yn destun i’w celf: mae’n destun ac yn wrthrych, yn ffordd o gynhyrchu ac yn arteffact a gynhyrchir. Drwy ddangos amrediad o ddulliau gludwaith, darlunio a cherflunio, roedd Ar Bapur yn arddangos gwaith dros 40 o artistiaid gan gynnwys yr artistiaid o Gymru, Tim Davies, Ceri Richards a James Richards, ymysg nifer o rai eraill.

Y rhestr lawn o’r artistiaid a gynhwyswyd yn Ar Bapur: Roger Ackling; Art & Language; Gillian Ayres; Anna Barriball; Karla Black; Derek Boshier; Ian Breakwell; Tony Carter; Prunella Clough; Jason Coburn; Tim Davies; Kate Davis; Francis Davison; Lesley Foxcroft; General Idea; Brian Griffiths; John Hilliard; Damien Hirst; Gary Hume; Gwyther Irwin; Gareth Jones; Ilya Kabakov; Tania Kovats; Jim Lambie; Langlands & Bell; Roy Lichtenstein; Linder; Richard Long; Kenneth Martin; Margaret Mellis; Henry Mundy; Paul Noble; Eduardo Paolozzi; Cornelia Parker; Roland Penrose; Simon Periton; Ceri Richards; James Richards; Bridget Riley; Jack Smith; Richard Smith; Sarah Staton; John Stezaker; Tony Swain; Harry Thubron a Wolfgang Tillmans ac Eleanor Wood.

Roedd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys nifer fechan o eitemau ar fenthyg o Gasgliad y British Council.

Mae Casgliad Cyngor y Celfyddydau yn gasgliad benthyciad cenedlaethol o gelf o Brydain o 1946 hyd heddiw, gyda dros 8,000 o waith a mwy na 1,000 o fenthyciadau wedi eu gwneud i dros 100 o leoliadau bob blwyddyn. Caiff Casgliad Cyngor y Celfyddydau ei reoli gan Ganolfan y Southbank, Llundain ar ran Cyngor y Celfyddydau Lloegr.

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google