Printio Rhyngwladol
16/11/2019 – 01/02/2019
Yn dilyn galwad agored ar gyfer gwaith celf seiliedig ar brint, dewiswyd dros 85 artist o 8 gwlad wahanol gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Canada, Japan ar gyfer yr arddangosfa.
Ochr yn ochr â Printiau Rhyngwladol mae’r artist Pam Newall wedi cydweithio â Tŷ Pawb a Designs in Mind Croesoswallt i ddatblygu stiwdio argraffu fyw yn yr oriel. O dan y teitl Make Print bydd y stiwdio yn creu dyluniadau print fydd yn ymddangos ar gynnyrch ar gyfer eu gwerthu drwy JOLT Designs in Mind a Siop//Shop yn Tŷ pawb.
Fel rhan o Creu Print, mae Pam Newall hefyd wedi curadu archif o brintiau a thaflenni sy’n cynrychioli cyfnod penodol yn y 1970au. Mae Stiwdio Printiau Bradford wedi bod yn hael a rhoi benthyg yr archif gan Dr Robert Galeta, Darlithydd a Pam Brooks, Darlithydd mewn Astudiaethau Beirniadol a Chyd-Destunol yn Ysgol Gelf Bradford.
Brenda Anderson, Clare Phelan, Ian Brown, Ryan Farley, Tara Dean.