Chwedlau o Terracottapolis
Yn cynnwys Paul Eastwood, Antony Gormley, Lesley James, Lydia Meehan, Renee So a Liam Stokes-Massey.
Mae cyfraniad sylweddol Wrecsam i stori gweithgynhyrchu brics, teils a theracota yn sail i’r arddangosfa hon.
O ganol y 19eg ganrif hyd at 2008, roedd Wrecsam yn adnabyddus ledled y byd am ei gweithgynhyrchu a’i ddosbarthiad rhyngwladol o frics, teils a chynnyrch teracota.
Gyda’r llysenw ‘Terracottapolis’, cynhyrchodd Wrecsam frics coch nodedig a theils addurniadol sydd wedi cael eu defnyddio’n helaeth yn rhai o’r adeiladau mwyaf crand ar draws Ynysoedd Prydain.
Mae’r arddangosfa yn defnyddio arteffactau o gasgliad Amgueddfa Wrecsam. Bydd gweithiau celf cyfoes gan ymarferwyr lleol yn cyd-fynd â’r eitemau hyn.
Mae’r Brick Man yn dod i Wrecsam
Uchafbwynt yr arddangosfa ydi The Brick Man gan Antony Gormley, crëwr cerflun Angel of the North yn Gateshead. Mae The Brick Man yn fodel 6 troedfedd ar gyfer cerflun arfaethedig 120 troedfedd o daldra a gafodd ei ddewis o gystadleuaeth ar gyfer safle canol dinas yn Nhriongl Holbeck ger Gorsaf Dinas Leeds ar ddiwedd yr 1980au. Ni sylweddolwyd y cerflun ar raddfa lawn erioed ar ôl iddo ddod i wrthwynebiadau gan gynllunwyr dinasoedd. Y model a’r archif ar gyfer y prosiect yng nghasgliad Amgueddfeydd ac Orielau Leeds yw’r cyfan sydd ar ôl bellach. I gyd-fynd â’r model bydd deunydd archif o gamau cynllunio’r cerflun. Mae hyn yn cynnwys llythyrau a thoriadau o’r wasg sy’n cynnig cipolwg hynod ddiddorol ar ymateb y cyhoedd a’r sgyrsiau a gafwyd ynghylch y cynigion gwreiddiol. Cefnogir benthyciad The Brick Man o Amgueddfeydd ac Orielau Leeds gan Raglen Benthyca Weston gyda’r Gronfa Gelf. Wedi’i chreu gan Sefydliad Garfield Weston a’r Gronfa Gelf, Rhaglen Fenthyciadau Weston yw’r cynllun ariannu cyntaf erioed ledled y DU i alluogi amgueddfeydd llai ac amgueddfeydd awdurdodau lleol i fenthyg gweithiau celf ac arteffactau o gasgliadau cenedlaethol.Renee So
Artist a aned yn Hong Kong yw Renee So, ac sydd wedi’i lleoli yn Llundain ar hyn o bryd. Mae iaith weledol Renee wedi’i hysbrydoli gan amrywiaeth o gyfeiriadau o archeoleg ac anthropoleg i bortreadau milwrol. Mae ei gweithiau cerameg yn aml yn niwlio ein canfyddiad o amser – amseroldeb cyfosodedig sy’n bodoli yn y bwlch rhwng dyfodoliaeth a hynafiaeth. Mae gwaith cerfwedd teils diweddar yr artist yn cael ei lywio gan rai dyluniadau teils a ddarganfuwyd ar rwydwaith London Underground – cynhyrchwyd llawer o’r teils hyn yn Wrecsam gan Dennis Ruabon.Lesley James
Cafodd Lesley James ei dewis i gynnal y prosiect ymchwil naratif hwn yn archwilio gweithgynhyrchu teracota yn Wrecsam oherwydd ei ffordd ystyrlon o drin deunyddiau cyffyrddol, diwydiannol yn aml. Mae ei harfer diddorol yn cynnwys byd llun a cherflunwaith, i gyflwyno gwaith sy’n dal pwysau corfforol ac emosiynol.Paul Eastwood
Mae Paul Eastwood yn artist yn Wrecsam sy’n trin celf fel ffurf o ddweud stori trwy ddeunyddiau. Mae’n creu hanes a dyfodol dychmygus i ymchwilio sut mae gwagleoedd, arteffactau a chof yn cyfleu hunaniaeth. Mae Eastwood yn gweithio mewn nifer o gyfryngau: fideo a pherfformiad, print a darluniadau, tecstilau, clai. Yn ei Arddangosfa, mae’n dangos ei gasgliad o ddarnau o grochenwaith yn ogystal â dewis o’i waith cerameg ei hun a gynhyrchwyd dros y 7 mlwydd ddiwethaf. Mae’r teilchion, a gasglwyd gan Eastwood o welyau afonydd lleol, yn ystod cyfnodau clo Covid, yn cyflwyno hanes diwydiannol yr ardal, ochr yn ochr â naratif damcaniaethol: sut y cyrhaeddodd y gwrthrychau hyn yno? Pwy a’u defnyddiodd, a pham? Sut oeddent yn edrych yn wreiddiol cyn iddynt gael eu torri a’u meddalu gan y dŵr? Felly, mae’r gwaith cerameg a grëwyd gan Eastwood yn dangos sefydlogrwydd bregus a chyfnodau diflanedig a malurion. Rhwyll glai â modrwyau ond yn diogelu amlinelliad siapiau; blwch llwch yn gorlifo yn awgrymu sgyrsiau hir Yn y ddau grŵp o arddangosfeydd, mae Eastwood yn ein gwahodd i ddychmygu beth sydd ar goll, sut roedd pethau yn y gorffennol a beth allant fod yn y dyfodol.Lydia Meehan
Comisiynwyd Lydia Meehan ar gyfer rhifyn 2020 o gomisiwn hysbysfyrddau blynyddol Tŷ Pawb, Wal Pawb. Mae ei ffocws ar dreftadaeth Wrecsam yn ymwneud â chrefft, gweithgynhyrchu a masnach. Ymgysylltodd Lydia â cheiswyr lloches sydd wedi cael eu hailgartrefu yn Wrecsam, ei gobaith oedd y gall y weithred o rannu gwybodaeth am y dreftadaeth hon greu tref a chymuned fwy croesawgar.Liam Stokes-Massey
Artist wedi’i leoli yn Wrecsam yw Liam Stokes-Massey, sydd yn defnyddio pensiliau, dyfrlliwiau, acrylig a chyfryngau digidol i greu gwaith celf arbennig o fanwl. Er ei fod yn arbenigo mewn portreadau pensil wedi’u comisiynu, mae wedi ymddiddori yn hanes a phensaernïaeth canol tref Wrecsam dros y blynyddoedd diwethaf. Yn benodol, mae’n mwynhau dod o hyd ac yna darlunio manylion pensaernïol bychan nad ydynt yn cael sylw’n aml. Ar gyfer yr arddangosfa hon, gofynnwyd i Liam greu cyfres o ddarluniadau sydd yn dangos manylion pensaernïol diddorol o amgylch y dref. Ymysg y darnau yma roedd detholiad o deils bric coch o hen gatalog Dennis of Ruabon, cerfwedd addurniadol The Old Threetuns’ (bellach yn Glwb Chwaraeon a Chymdeithasol Railway) ac arwydd sydd wedi’i grefftio’n hardd o’r Talbot, ymysg eraill. Cafodd rhai o’r dyluniadau yma eu defnyddio i greu papur lapio i’w roi a’i ddefnyddio gan bawb sy’n masnachu yn Tŷ Pawb.Cynlluniwch eich ymweliad
- Mae Chwedlau o Terracottapolis yn cael eu harddangos rhwng 19 Mawrth a 11 Mehefin.
- Oriau agor yr oriel: 10am-4pm, dydd Llun i ddydd Sadwrn (ar gau Dydd Gwener y Groglith a Dydd Llun y Pasg)