Gwneuthurwyr Sipsiwn
TYFU GYDA’N GILYDD: Arddangosfa sy’n dathlu creadigrwydd
Mae ein harddangosfa galwad agored, a gynhelir bob dwy flynedd, yn dychwelyd ar gyfer rhifyn 2022.
Yn cynnwys gweithiau gan dros 150 o artistiaid o bob rhan o’r wlad, yn gweithio mewn ystod o gyfryngau gan gynnwys paent, print a cherflunio.
Mae hyn yn dilyn ymateb gwych i alwad agored yr haf hwn. Cyflwynodd dros 220 o artistiaid fwy na 600 o weithiau celf i’w hystyried.
Y blwyddyn yma ddaru’r detholidau cychwynnol cael ei wneud gan staff Ty Pawb, gyda’r meini prawf yn cynnwys amrywiaeth o dechnegau ac ymarferion yn cael ei gynrychioli ar draws y sioe i sicrhau’r cynnwys o artistiaid amaturaidd ar y cyd gydag artistiaid proffesiynol.
Rhoddir dwy wobr yn ystod yr arddangosfa. Bydd enillydd Gwobr y Beirniaid yn cael ei ddewis gan ein beirniad gwadd, yr artist, Harold Offeh. Bydd Gwobr y Bobl yn cael ei dewis drwy bleidlais gyhoeddus, gyda’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd yr arddangosfa ym mis Ionawr.
Yn cyflwyno “NAU, NAU, DOH, CHAAR”: Ôl-sylliad gan yr Artist Amlddisgyblaethol Liaqat Rasul