
- Mae'r digwyddiad yma wedi digwydd.
Aildanio: Arddangosfa Gwobr Gelf 2022-23
Ebrill 21 @ 10:00 am - Mai 27 @ 4:00 pm

Bydd ‘Aildanio’, yr arddangosfa Gwobr Gelf Celfyddydau Anabledd Cymru (CAC) yn teithio’n genedlaethol ar draws chwe oriel yn dechrau yn g39 Caerdydd o 18fed Tachwedd 2022.
Mae’r arddangosfa, a ariannir gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn cynnwys 26 o weithiau celf gan artistiaid anabl wedi’i lleoli yng Nghymru, dewisir o dros 100 o gyflwyniadau i ymatebion creadigol i foment ‘aildanio’. Yn dechrau yng Nghaerdydd yn g39, bydd yr arddangosfa yn teithio ar draws Cymru rhwng Tachwedd 2022 a Medi 2023. Dyma gyfle arbennig i brofi gwaith celf weledol flaengar a phryfoclyd gan rai o artistiaid gorau Cymru.
Mae CAC, sefydliad cenedlaethol celfyddydau anabledd yn dathlu 40 mlynedd o hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl a Byddar yn y celfyddydau ac yn falch i ddechrau’r daith ‘Aildanio’ yn g39, sefydliad sy’n cael ei redeg gan artistiaid a gofod cymunedol creadigol yng Nghaerdydd.
Gallwch weld ‘Aildanio’ yn y lleoliadau canlynol yn 2023:
- Amgueddfa Dyffryn Cynon: 7 Ionawr – 11 Chwefror
- Galeri, Caernarfon: 3 Mawrth – 8 Ebrill
- Tŷ Pawb, Wrecsam: 21 Ebrill – 27 Mai
- Oriel Davies, Drenewydd: 9 Mehefin – 9 Gorffennaf
- Glyn Vivian, Abertawe: 22 Gorffennaf – 3 Medi
Oriau agor yr oriel: 10am-4pm, dydd Llun i ddydd Sadwrn.
Delwedd arweiniol: Cerys Knighton, ‘Great Crested Grebe, Daffodils’
Manylion
- Cychwyn:
- Ebrill 21 @ 10:00 am
- Gorffen:
- Mai 27 @ 4:00 pm
- Categori Digwyddiad :
- Arddangosfeydd