Os oes gennych 5 munud, gallwch ein helpu i greu gwell profiad i chi, drwy gymryd rhan yn ein harolwg byr iawn.
Rydym yn gweithio i wella ein rhaglen gelfyddydol yn Tŷ Pawb, drwy’r pethau a wnawn ar-lein, yn ddigidol ac o bell. Os oes gennych 5 munud, gallwch ein helpu i greu gwell profiad i chi, drwy gymryd rhan yn ein harolwg byr iawn: http://doo.vote/14335d4
Ar hyn o bryd rydym yn datblygu ‘Strategaeth Ddigidol ac Anghysbell’ ar gyfer ein Rhaglen Gelfyddydau yn Tŷ Pawb – cynllun i helpu i wella ein rhaglen ar gyfer bawb drwy’r pethau a wnawn ar-lein, yn ddigidol ac o bell. Hoffem i chi ein helpu i’w greu drwy rannu eich atebion i’r cwestiynau canlynol.
1. Beth ydyn ni’n ei wneud ar-lein, yn ddigidol ac o bell nawr, rydych chi’n ei hoffi ac sy’n gwella eich profiad o’n rhaglen gelfyddydol?
2. Beth ddylem ni fod yn ei wneud yn wahanol ar-lein, yn ddigidol ac o bell yn y dyfodol, i wneud eich profiad o’n rhaglen gelfyddydol yn well?
3. Beth sydd bwysicaf i chi am yr hyn a wnawn ar-lein, yn ddigidol ac o bell?
Yn cyflwyno Gofod Gwneuthurwr – Cyfle Preswyl i artistiaid, gwneuthurwyr a dylunwyr…
Gofod Gwneuthurwr
Mae Siop//Shop yn newid.
O ganol mis Ionawr 2021, bydd y gofod yn ail-lansio fel Gofod Gwneuthurwyr – stiwdio hygyrch lle bydd artistiaid, gwneuthurwyr a dylunwyr o bob cefndir yn datblygu eu harferion gyda ffenestr allan i’r byd.
Rydym yn awyddus i wneud arferion creadigol traddodiadol a chyfoes yn weladwy.
Byddwn yn parhau i werthu gwaith gan sbectrwm eang o artistiaid cymhwysol yn ein cypyrddau arddangos newydd ym mhrif fynedfa Tŷ Pawb.
Cyfle Preswyliaeth
Mae cyfleoedd preswyliaeth Gofod Gwneuthurwr ar gyfer artistiaid a gwneuthurwyr o bob math; gwahoddir dylunwyr, ymarferwyr, artistiaid a chrefftwyr sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol i wneud cais.
Amserlen: 4 mis yn ystod Ebrill – Gorffennaf; Awst – Tachwedd; Rhagfyr – Mawrth 2022
Gofod Gwneuthurwr: Mae’r gofod 48 metr sgwâr wedi’i leoli gyferbyn â’r orielau yn Tŷ Pawb ac mae agoriad ffenestr fawr yn edrych tuag at y brif fynedfa. Dyma gyfle i wneuthurwyr arddangos eu hymarfer i gynulleidfa ehangach. Mae’r gofod wedi’i gyfarparu ar gyfer cyflwyniadau digidol a byddwn yn cynnig hyrwyddo drwy ein platfformau cymdeithasol. Bydd cyfle i gynnal arddangosfeydd a datblygu gweithgareddau fel sgyrsiau a dosbarthiadau meistr.
Yn ystod y cyfnod preswylio, byddai’r gwneuthurwr hefyd yn cael cyfleoedd â thâl i arwain at chwe sesiwn gweithgarwch cyhoeddus yn ein Lle Celf Ddefnyddiol, neu Useful Art Space.
Deunyddiau: Byddwn yn darparu cyllideb deunyddiau o hyd at £500.
Mae’r cymorth yn cynnwys: Marchnata a cyhoeddusrwydd; mynediad i sesiynau mentora/hyfforddi.
Fel arfer, mae gan Tŷ Pawb nifer yr ymwelwyr â 50,000 (cyn covid) felly anogir cyfleoedd i werthu tra yn y gofod.
Sut i Wneud Cais:
Anfonwch:
• Ddatganiad o hyd at 500 o eiriau am eich ymarfer a sut y bydd y cyfle hwn yn datblygu eich gwaith. Bydd gofyn i chi dreulio o leiaf 20 awr yr wythnos yn y gofod.
- Ddatganiad o hyd at 500 o eiriau am eich ymarfer a sut y bydd y cyfle hwn yn datblygu eich gwaith. Bydd gofyn i chi dreulio o leiaf 20 awr yr wythnos yn y gofod.
- 10 delwedd (neu showreel).
- CV cyfredol.
- Anfonwch i typawb@wrexham.gov.uk erbyn 31 Ionawr 2021
Rydym yn annog ac yn croesawu ceisiadau gan wneuthurwyr o bob cefndir.
Prif ddelwedd: https://rachelholian.co.uk/
Newyddion diweddar
- Tŷ Pawb gwyrddach – Eich llais chi yn ein dyfodol
- Gwnewch gais nawr am stondin ym Marchnad Gwneuthurwyr Wrecsam
- Dewch yn fasnachwr yn Tŷ Pawb
- Plant ysgol yn creu clytweithiau trawiadol wedi’u hysbrydoli gan Gwilt Teiliwr Wrecsam
- Galwad Agored i artistiaid – Cyflwynwch eich gweithiau ar gyfer Arddangosfa Agored Tŷ Pawb
Categorïau newyddion
Archifau newyddion
- Awst 2024
- Gorffenaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Mawrth 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffenaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffenaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffenaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffenaf 2020
- Mehefin 2020