Hoffech chi ddod yn fasnachwr marchnad Tŷ Pawb?

Ymunwch â’n teulu marchnadoedd a byddwch yn rhan o gymuned wych o fusnes lleol sydd wedi’i lleoli yn hyb marchnadoedd, celfyddydau a chymuned Wrecsam sydd wedi ennill sawl gwobr.

Gyda rhaglen dreigl o weithgareddau, arddangosfeydd a digwyddiadau ar gyfer pob oed, mae Tŷ Pawb yn cynnig lleoliad unigryw, bywiog i agor eich busnes manwerthu/masnachu eich hun yma yng nghanol dinas Wrecsam.

Mae ein neuadd farchnad a chwrt bwyd yn gartref i ystod eang o fusnesau lleol sy’n gwerthu popeth o fwyd a diod i ddillad, crefftau ac anrhegion wedi’u gwneud â llaw, cardiau, recordiau finyl, gemau fideo retro a gemwaith, ynghyd â salon gwallt a pharlwr tatŵ!

Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi hefyd logi bwrdd marchnad am gyn lleied â £10 y dydd?

Rydym yn croesawu pob ymholiad