Tŷ Pawb gwyrddach – Eich llais chi yn ein dyfodol
Mae Tŷ Pawb ar hyn o bryd yn edrych ar ffyrdd o wneud yr adeilad yn fwy gwyrdd a hoffem glywed eich syniadau.
Mae canolfan bresennol Tŷ Pawb yn cynnwys oriel, gofod perfformio, ystafelloedd cyfarfod, ardal fwyd prysur a neuadd farchnad.
Ond mae yna ragor o gyfleoedd i wneud Ty Pawb yn fwy gwyrdd ac i wneud gwell defnydd o’r meysydd parcio ar y to.
Ar hyn o bryd rydym yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb i edrych ar sut y gallai datblygu’r mannau parcio awyr agored greu incwm masnachol pellach, a chefnogi model busnes Tŷ Pawb.
Beth hoffech chi ei weld ar do’r adeilad? Sut gall Tŷ Pawb fod yn wyrddach?
Rydym eisiau clywed barn y gymuned a’ch syniadau.
Cymerwch ran
Dyma sut y gallwch chi ymuno â’r sgwrs gymunedol a gynhelir rhwng Awst 19 ac Awst 30, 2024:
Dydd Iau, Awst 22ain, 2024, 1400-1500 – Stiwdios dysgu, llawr cyntaf Tŷ Pawb, LL13 8BY
Dydd Mawrth, Awst 27ain, 2024, 1400-1500 – Stiwdios dysgu, llawr cyntaf Tŷ Pawb, LL13 8BY
Dydd Mercher, Awst 28ain, 2024, 1100-1200 – trafodaeth arlein ar Teams
Mae modd hefyd llenwi holiadur ar-lein
I gofrestru ar gyfer y sesiynau trafod, e-bostiwch atebtypawb@gmail.com
Diolch ymlaen llaw am rannu eich barn a’ch syniadau gyda ni wrth i ni anelu at wella Tŷ Pawb a’i wneud yn wyrddach.