Rydym yn gweithio i wella ein rhaglen gelfyddydol yn Tŷ Pawb, drwy’r pethau a wnawn ar-lein, yn ddigidol ac o bell. Os oes gennych 5 munud, gallwch ein helpu i greu gwell profiad i chi, drwy gymryd rhan yn ein harolwg byr iawn:  http://doo.vote/14335d4

Ar hyn o bryd rydym yn datblygu ‘Strategaeth Ddigidol ac Anghysbell’ ar gyfer ein Rhaglen Gelfyddydau yn Tŷ Pawb – cynllun i helpu i wella ein rhaglen ar gyfer bawb drwy’r pethau a wnawn ar-lein, yn ddigidol ac o bell. Hoffem i chi ein helpu i’w greu drwy rannu eich atebion i’r cwestiynau canlynol. 

1. Beth ydyn ni’n ei wneud ar-lein, yn ddigidol ac o bell nawr, rydych chi’n ei hoffi ac sy’n gwella eich profiad o’n rhaglen gelfyddydol?

2. Beth ddylem ni fod yn ei wneud yn wahanol ar-lein, yn ddigidol ac o bell yn y dyfodol, i wneud eich profiad o’n rhaglen gelfyddydol yn well?

3. Beth sydd bwysicaf i chi am yr hyn a wnawn ar-lein, yn ddigidol ac o bell?