Galwad i Farchnad Gwneuthurwyr Wrecsam! Pobl greadigol – rydym eich angen chi! 📣

Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr, 10am-4pm, Ty Pawb, Wrecsam

NADOLIG 2024 Marchnad Gwneuthurwyr Wrecsam.

Rydyn ni nawr yn derbyn ceisiadau ar gyfer pumed Marchnad Gwneuthurwyr Wrecsam ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr yng Nghanolfan Gelf a Marchnad Tŷ Pawb a bydd yn blodeuo’n wych.

Rydym yn chwilio am amrywiaeth eang o wneuthurwyr o ddillad, cerameg, tecstilau, gwaith coed, nwyddau cartref, gemwaith, gwydr a gwneud printiau a chelf fforddiadwy.

Cyfle cyffrous i gwrdd â’ch cwsmeriaid wyneb yn wyneb, bod yn rhan o gymuned greadigol fywiog bresennol Wrecsam, ac i arddangos eich nwyddau ym marchnad brysur Tŷ Pawb!

Mae stondinau yn £30 ar gyfer y digwyddiad hwn a dyma fydd y byrddau trestl safonol 6 troedfedd x 2 droedfedd. Ar yr achlysur hwn nid ydym yn cynnig hanner stondinau ond mae croeso i chi wneud cais gyda ffrind neu fel rhan o grŵp.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan wneuthurwyr ar bob cam o’u gyrfa greadigol a gwerthu am amrywiaeth o bwyntiau pris.

Gwnewch gais yma