Mae Tŷ Pawb yn gwahodd artistiaid traddodiadol a chyfoes o bob cwr o’r byd i gyflwyno gweithiau ar gyfer arddangosfa newydd ym mis Hydref.

Arrdangosfa Tŷ Pawb Agored fydd yr arddangosfa  gyntaf i gael ei chynnal yn y ganolfan marchnadoedd, y gymuned ers iddo gau oherwydd pandemig coronafirws.

Thema’r arddangosfa yw “arddangosfa sy’n dathlu creadigrwydd yn ystod y cyfnod cloi-i-lawr” ac mae diddordeb arbennig mewn gweld sut mae artistiaid yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol wedi parhau i wneud gwaith yn ystod y cyfnod cloi-i-lawr.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB.

Gall artistiaid gyflwyno hyd at dri gwaith. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12pm ar 31 Gorffennaf.

Bydd Arddangosfa Agored Tŷ Pawb yn agor ar 3 Hydref 2020 ac yn para tan 23 Rhagfyr 2020.

Mae pedwar categori gwobr i ymgeiswyr, gan gynnwys Gwobr y Beirniaid (£1000), Gwobr y Bobl (£500), Gwobr Addasrwydd am yr ymateb mwyaf dyfeisgar i’r cyfnod cloi-i-lawr (£ 500) a Gwobr Pobl Ifanc (£250)

Am fanylion llawn, ewch i: https://www.typawb.cymru/ty-pawb-agored

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam dros Gymunedau, Partneriaethau, Amddiffyn y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’r gymuned greadigol ledled y byd wedi cael ei tharo’n galed gan y pandemig ac mae artistiaid wedi gorfod dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio a chefnogi ei gilydd trwy’r amser anodd hwn. Bydd yr arddangosfa  yn ddathliad o’r creadigrwydd, yr arloesedd a’r gwytnwch a ddatblygwyd gan artistiaid yn ystod y cyfnod cloi-i-lawr ledled y byd dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

“Rydyn ni eisiau annog artistiaid o bob cefndir ledled y byd i gyflwyno gweithiau a chymryd rhan ac rydyn ni’n edrych ymlaen gyda chyffro mawr i allu agor yr arddangosfa hon i’r cyhoedd ym mis Hydref.”