Yn galw artistiaid gwneud printiau traddodiadol a chyfoes!

Mae cyflwyniadau Print Rhyngwladol 2021 bellach ar agor. Fe’ch gwahoddir i gyflwyno hyd at dri phrint i’w hystyried ar gyfer arddangosfa yn Tŷ Pawb rhwng 4 Rhagfyr 2021 a 26 Chwefror 2022.

Dyddiadau cyflwyno: Dydd Mawrth 1af Mehefin – Hanner Nos, Sadwrn 31ain o Orffennaf.

Am fwy o wybodaeth ac i gyflwyno eich gwaith ewch i: https://www.typawb.cymru/arddangosfeydd/print-rhyngwladol-2021/.