Celf Cartref

#celfcartref #artsathome #usefulart #celfdefnyddiol #arteutil

Gan fod ein horielau ar gau dros dro, byddwn yn cyflwyno rhaglen amgen dros y cyfnod hwn – ‘Celf Cartref Tŷ Pawb’.  

Byddwn yn sicrhau bod agweddau o’n rhaglen arddangosfeydd ar gael ar-lein, ac yn gweithio gydag artistiaid i greu prosiectau i chi gymryd rhan ynddynt yn eich cartref. Rydym yn dymuno helpu ein cynulleidfaoedd i deimlo’n gysylltiedig â ni ac â’i gilydd, mewn ffyrdd celfyddydol.

Rydym yn edrych ymlaen at arddangos eich cynnyrch creadigol fel rhan o arddangosfa agored yn Tŷ Pawb, yn ddiweddarach eleni.

Sgroliwch i lawr am fwy o wybodaeth

Tanysgrifiwch i’n rhestr bostio i gael diweddariadau wythnosol am y Celf Carftref

#celfddefnyddiol #usefulart #arteutil

Aseiniadau Creadigol

Sophie Lindsey: Really Wild Lockdown

Bydd Sophie yn eich gwahodd i gyflwyno clipiau fideo byr sy’n cofnodi eich ymddygiad eich hun, neu aelodau eraill o’ch cartref, yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud, gyda’r llais, i greu rhaglen ddogfen natur gyfunol a fydd yn cael ei harddangos yn arddangosfa ailagor Tŷ Pawb.Bydd cyfarwyddiadau a thiwtorialau sylfaenol yn dangos gwahanol strategaethau a thechnegau camera a bydd cyfranogwyr yn defnyddio eu ffonau i recordio deunydd ffilm ar ffurf dogfen.

Rhi Moxon: Positivity Press

Byddwn yn cyflwyno’r pum artist arall dros yr wythnosau nesaf.Bydd yr artistiaid yn datblygu Aseiniadau Creadigol i’n cynulleidfaoedd, hen ac ifanc, eu cyflawni tra’u bod yn hunan-ynysu / ymbellhau cymdeithasol gartref – rhywbeth ystyrlon i’w wneud sy’n gwneud i bobl deimlo’n gysylltiedig ag eraill, ac yn rhan o gymuned, boed hynny stryd, eu tref, neu’r byd ehangach.Teitl Aseiniadau Creadigol Rhi yw ‘Positivity Press’.Dangosir i’r cyfranogwyr sut i wneud cyhoeddiadau DIY gan ddefnyddio technegau argraffu a dylunio llyfrau ymarferol.Bydd y cyhoeddiadau yn dal straeon a syniadau cadarnhaol gan gymunedau i ledaenu positifrwydd a gobaith ac i annog cydgysylltiad yn ystod yr amseroedd rhyfedd hyn.Byddwn yn postio fideos hyfforddi Rhi yn fuan gyda’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gymryd rhan!

Jenny Cashmore: Walk with Household Objects

Mae Jenny yn eich gwahodd i ryddhau gwrthrych cartref o gyfyngiadau eich cartref, ac i fynd ag ef gyda chi ar daith gerdded. Byddwch yn rhan o waith celf gydweithredol chwareus, lle rydym yn edrych i ryddhau cymaint o wrthrychau cartref ag sy’n bosibl rhwng dyddiadau 25ain Mai a 8fed Mehefin 2020. Mewn cyfnod pan rydyn ni i gyd yn treulio mwy o amser gartref, meddyliwch amdan eich gwrthrychau cartref sydd byth yn cael gadael y tŷ. Helpwch nhw allan! Pwy sydd angen ci i fynd am dro?  

Bydd yr holl ddogfennaeth a anfonir i mewn gan gyfranogwyr yn cael eu crynhoi mewn ymateb ar y cyd a fydd yn cael ei ddangos fel rhan o arddangosfa grŵp Celf Cartref yn Tŷ Pawb.

Owain Train McGilvary: Caru’n Ddwys

Yn ystod yr amser anghyffredin rydym yn byw ynddi, mae Owain Train McGilvary’n credu bod nifer o gwestiynau perthnasol i ofyn ar sut ydan ni’n byw ac ymddwyn yn y byd a gymaint dani’n gwerthfawrogi cyfathrebu ym mhob ffordd. Yn enwedig y gwahaniaethau rhwng cenedlaethau, rhwng yr hen a’r ifanc ond darganfod hefyd sut yn union yr ydan yr un peth drwy ffurfiau gwleidyddol. 

Mae’r aseiniad yn syml: Creu collage sydd yn mynegi cariad dwys i chi rwan. 

Ruth Stringer: The Global Village

Mae Ruth yn eich gwahodd i ychwanegu eich cartref eich hun yn ‘The Global Village’, gofod unigryw sy’n bodoli i ddathlu ein hunain a’n cymuned leol, ac i rannu’r hyn yr ydym am gymryd hefo ni i’r byd y tu hwnt i’r cyfnod cloi-i-lawr.Bydd templedi ar gael i chi eu lawrlwytho (neu gallwch chi wneud un eich hun!) A’u defnyddio i wneud fersiwn greadigol o’ch annedd, wedi’i haddurno ag eitemau sy’n unigryw i chi a’ch ardal leol.

Byddwch yn gallu uwchlwytho’ch annedd a chael cyfle i fynd ar daith o amgylch y gymuned wrth iddi dyfu ar-lein!Efallai y bydd eich creadigaeth yn cael ei weld gan rywun yr ochr arall i’r byd – beth hoffech chi ei ddathlu gyda nhw ynglŷn â ble rydych chi’n byw?

 

Peter Hooper: traeon Gwerin Creadigol

Ar gyfer aseiniadau creadigol Tŷ pawb, mae Peter Hooper yn eich annog i ysgrifennu ac i ddarlunio straeon gwerin newydd gyda thema a ysbrydolwyd gan Wrecsam. Bydd cyfranogwyr (yn unigol neu fel teulu) yn defnyddio eu gardd, eu hardal leol, neu ddelwedd o’u hoff leoliad neu dirwedd fel ysbrydoliaeth.

 

Mai Thomas: Bocs Sebon

Relating directly to our present global emergency, social isolation and the measures we all take to protect ourselves and our communities, Mai Thomas’ Creative Assignment focuses on a simple and accessible object which everyone can relate to (now, more than ever!). Soap!

Mewn absenoldeb ein rhaglen cerddoriaeth Yn Fyw yn Y Sgwâr, byddwn yn parhau i ddarparu profiadau cerddoriaeth fyw yn syth i’ch cartref drwy ein tudalen Facebook, gan lynu wrth ganllawiau’r Llywodraeth ynghylch hunan-ynysu a chadw pellterau cymdeithasol.

Perfformiadau sydd ar ddod (mwy i’w gyhoeddi cyn bo hir)


April 10th – Isabella Crowther 7pm
April 24th – Andy Hickie 7.30pm
May 8th – Emmi Manteau 7.30pm
May 22nd – Luke Gallagher 7.30pm
6th June – Jack Found 7.30pm
12th June – Cosmic Dog Fog 8pm
19th June – Cara Hammond 7.30pm

Clwb Celf i’r Teulu

Tra bod Ty Pawb ar gau, byddwn yn parhau i ddarparu fersiwn wedi’i addasu o Clwb Celf i’r Teulu bob bore Sadwrn fel rhan o’n rhaglen ‘Celf Cartref’.

Bydd ein hartistiaid Clwb Celf i’r Teulu Zoe a Sophia yn creu gweithgareddau i’w lawrlwytho, a fydd ar gael drwy ein gwefan a’n tudalen Facebook, bob dydd Sadwrn.

Dadlwythwch y PDFs isod:

Wythnos 11 – Prosiect Concertina (Fideo)
Wythnos 10 – Cyfnodolion Joy (Fideo)
Wythnos 9 – Stampio Llysiadwy (Fideo)
Wythnos 8 – Map Twrcaidd (Fideo)
Wythnos 7 – Bynting Portreadau Anifeiliaid
Wythnos 6 – Portreadau Ynysu
Wythnos 5 – Gwneud Eich Ffau Blwch Esgidiau Bach Eich Hun
Wythnos 4 – Gwneud Aderyn Symudol
Wythnos 3 – Gwneud Eich Melin Wynt Eich Hun
Wythnos 2 – Gwneud Eich Torch Wyau Pasg Eich Hun
Wythnos 1 – Gwneud Eich Coeden Pasg Eich Hun

 
 
 
 

Kevin Hunt –
‘face – ade’

I nodi diwrnod olaf commissiwn Wal Pawb Kevin Hunt, rydym yn rhyddhau’r rysáit ar gyfer ei ddiod boblogaidd ‘face – ade’

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google