Peter Hooper: Straeon Gwerin Creadigol
Aseiniad Creadigol Celf Cartref
#celfddefnyddiol #usefulart #arteutil #celfcartref #artsathome
Trosolwg o’r Prosiect:
Mae Aseiniad Creadigol Celf Cartref Peter Hooper yn barhaol ac mae’n annog aelodau o’r cyhoedd i ysgrifennu a darlunio straeon gwerin newydd gyda thema a ysbrydolwyd gan Wrecsam. Gall cyfranogwyr (yn unigol neu fel teulu) ddefnyddio eu gardd, eu hardal gysegredig, neu ddelwedd o hoff leoliad neu dirwedd fel eu hysbrydoliaeth.
Gellir gweld oriel o ddelweddau a dolenni ar y daflen waith isod, y gall pobl eu defnyddio fel ysbrydoliaeth, er eich bod hefyd yn cael eich annog i ddefnyddio lluniau teulu, cipiau gwyliau neu leoliadau adnabyddus yn Wrecsam fel dewis arall.
Amdan yr Artist:
Hwylusydd a chyhoeddwr gweithdy yw Peter Hooper. Prif ffocws Peter yw cynnal gweithdai ysgrifennu a darlunio drwy ei fenter gymdeithasol Active Writing Limited, sydd wedi’i leoli yn Hwb Menter Wrecsam. Mae’n cydweithio ag ystod eang o ymarferwyr creadigol i gyflwyno prosiectau ar gyfer gwyliau, awdurdodau lleol a mathau eraill o sefydliadau. Nod prosiectau Peter yw annog pobl o bob oed i ysgrifennu (neu dynnu llun) o blith pethau eraill, yr hyn y maent yn ei garu am yr awyr agored a byw bywyd bywiog.