Sophie Lindsey - Really Wild Lockdown
Celf Cartref – Aseiniadau Creadigol
#usefulart #celfddefnyddiol #arteutil #celfcartref #artsathome
Byddwch yn rhan o’n rhaglen ddogfen gydweithredol!
Yn ystod y mis diwethaf rydym wedi bod yn unedig fel rhywogaeth, gan newid ein hymddygiad a mynd i gyfnod o aeafgysgu annodweddiadol.
P’un a ydych yn cael trafferth i godi yn y bore, yn fwy gofalus yn mynd â’ch biniau allan, neu’n dechrau hobi newydd, rydym i gyd wedi mabwysiadu strategaethau byw a goroesi newydd.
Crëwch ffilm fer 1 funud o weithred/ymddygiad gennych chi neu aelod o’ch cartref, yna crëwch stori fer ar ffurf arddull natur i gyd-fynd â hi, meddyliwch am David Attenborough yn cwrdd â You’ve Been Framed!
Bydd yr holl glipiau yn cael eu golygu gyda’i gilydd i greu fideo o’n gwahanol strategaethau goroesi, a fydd yn cael eu rhannu ar Facebook ac mewn arddangosfa pan fydd Tŷ Pawb yn ailagor.
Ebostiwch sain a fideo at: reallywildlockdown@gmail.com
The deadline for submissions to this project has now passed – but you can still take part in lots of other Arts At Home Creative Assignments!
Am yr artist:
Wedi’i lleoli yn y Fenni, mae Sophie yn arlunydd sydd wedi gwneud gweithiau doniol a meddylgar ledled y byd. Ewch i www.sophielindsey.co.uk i gael mwy o wybodaeth