Owain Train McGilvary - Caru'n Ddwys
Celf Cartref – Aseiniadau Creadigol
#usefulart #celfddefnyddiol #arteutil #celfcartref #artsathome
Yn ystod yr amser anghyffredin rydym yn byw ynddi, mae Owain Train McGilvary’n credu bod nifer o gwestiynau perthnasol i ofyn ar sut ydan ni’n byw ac ymddwyn yn y byd a gymaint dani’n gwerthfawrogi cyfathrebu ym mhob ffordd. Yn enwedig y gwahaniaethau rhwng cenedlaethau, rhwng yr hen a’r ifanc ond darganfod hefyd sut yn union yr ydan yr un peth drwy ffurfiau gwleidyddol.
Mae’r aseiniad yn syml: Creu collage sydd yn mynegi cariad dwys i chi rwan.
Pwy ydi nhw? Beth ydi o? Lle mae o? Be ydi’r sefyllfa caru orau i chi?
Yn fwriadol mae’r cwestiwn yn fychan ac yn agored gan fod llawer yn y fantol drwy ymrwymo eich hun i garu. Mae’n beryglus a llawn risg. Yn ystod y cyfnod o ynysu mae angen meddwl am beth rydym yn ei ddal anwylaf i’n calonnau ac ella dechrau adnewyddu perthnasau gyda ffrindiau a theulu ymhell a chynnau tân ar hen aelwyd.
Mae creu collage (yn ei synnwyr ehangaf) yn ffordd briodol i wneud hyn. Mae’n gweithio’n dda mewn grŵp ac ar ben eich hun. Mae’r prosiect fel ffordd i ddechrau cysylltu â chwestiynu pethau ar draws cenhedlaeth, ein sefyllfa dosbarth, pryderon ecolegol, ac ein hunaniaethau o fewn y strwythurau yna.
Cewch greu mewn unrhyw ffordd ydach chi isio – papur, pensil, ffelt pen, tlysau, meddalwedd golygu cyfrifiadur, ffotograffiaeth (newydd a hen), paent, glitter, toriadau cylchgrawn, papur sgrap, gwrthrychau, ffrwyth, llysiau, gwallt, sgwennu, eich cyrff. Y mwya’ ‘allan o’r bocs’, y gorau.
Enghreifftiau o artistiaid sydd yn defnyddio collage yw:
Hannah Höch
Kurt Schwitters
Laure Prouvost
Luned Rhys Parri
Heather Phillipson
John Stezaker
Allwch yrru’r canlyniad yn ôl i Owain unai drwy instagram @typawb neu hefyd cewch ei e-bostio ar carunddwys@gmail.com. Cewch dynnu llun ohono gyda ffôn, camera neu fel sgan. Os bydd gennych unrhyw beth arall y dymunwch rannu am eich profiad o’r aseiniad rydym yn annog chi i neud hynny.
Yna fydd Owain yn cynhyrchu llyfryn gyda’r aseiniadau i gyd ynddo, bydd y rhain ar gael ar-lein fel PDF i lawr lwytho fel bod pawb yn gallu cael gafael arno.
Mae hwn yn addas i bob oedran ac mae Owain yn annog chi i wneud hyn gyda phawb yn eich teulu os ydi hynny’n golygu ei wneud o’n ffisegol neu yn ddigidol.
Am yr Artist:
Mae Owain Train McGilvary yn arlunydd wedi’i leoli rhwng Glasgow ac Ynys Môn sy’n gweithio ym maes delwedd symudol, collage a lluniadu. Mae ganddo ddiddordeb yn y ffordd y gellir defnyddio iaith sy’n deillio o ddiwylliant poblogaidd, clecs, queer a meddwl ffeministaidd fel strategaeth i gwestiynu dulliau cynhyrchu artistig trwy ailddehongli, cyfeirio a pharodi.