Jenny Cashmore

Celf Cartref – Aseiniadau Creadigol
#usefulart #celfddefnyddiol #arteutil #celfcartref #artsathome

Yn ystod rhan fwyaf o’r cyfnod cloi-i-lawr mwyaf llym, pan oedd ymarfer corff wedi’i gyfyngu i weithgaredd dyddiol, cymerodd Jenny wrthrych cartref gwahanol gyda hi pan aeth allan ar ei taith cerdded ddyddiol lleol. Yn mabwysiadu’r teitl ‘Tro dyddiol gyda gwrthrych cartref’, fe’i gwelwyd yn araf yn rhyddhau gwrthrychau amrywiol o’r tu mewn i’w chartref dros gyfnod estynedig o amser. Mae’r gwaith yn ystyried ein perthynas â’r tu mewn, a’n mynediad i’r awyr agored. Amlygi’r gyda hiwmor trwy’r weithred o gymryd gwrthrychau dan do i’r tu allan.

Ar gyfer Aseiniadau Creadigol Tŷ Pawb, dymuna Jenny ymestyn y corff hwn o waith i “Tro gyda gwrthrychau’r cartref” drwy wahodd eraill i gymryd rhan gyda’r un weithred dros gyfnod penodol o amser. Y nod yw creu digwyddiad gweithredu ar y cyd sy’n digwydd mewn amryw o leoliadau. Bydd yr holl ddogfennaeth a anfonir i mewn gan gyfranogwyr yn cael eu crynhoi mewn ymateb ar y cyd a fydd yn cael ei ddangos fel rhan o arddangosfa grŵp Celf Cartref yn Tŷ Pawb.

Mae Jenny yn eich gwahodd i ryddhau gwrthrych cartref o gyfyngiadau eich cartref, ac i fynd ag ef gyda chi ar daith gerdded. Byddwch yn rhan o waith celf gydweithredol chwareus, lle rydym yn edrych i ryddhau cymaint o wrthrychau cartref ag sy’n bosibl rhwng dyddiadau 25ain Mai a 8fed Mehefin 2020. Mewn cyfnod pan rydyn ni i gyd yn treulio mwy o amser gartref, meddyliwch amdan eich gwrthrychau cartref sydd byth yn cael gadael y tŷ.  Helpwch nhw allan! Pwy sydd angen ci i fynd am dro?

E-bost: walkwithhouseholdobjects@gmail.com

The deadline for submissions to this project has now passed – but you can still take part in lots of other Arts At Home Creative Assignments!

Am yr artist:

Mae Jenny yn artist cyfoes, amlddisgyblaethol yn creu gwaith sy’n amlygu mewn ffurfiau amrywiol. Ar hyn o bryd mae hi’n byw yn Nyffryn Gwy ar ffin Cymru a Lloegr. Mae gan ei gwaith ddiddordeb yn bennaf mewn archwilio ein hymdeimlad o le a’n perthynas i le.

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google