‘ANNWN: Sgwrs ar Gymroddyfodolaeth’ – 18:00-20:00 Dydd Gwener, 18 Mehefin 2021

Mae’r digwyddiad hwn yn dwyn ynghyd pedwar o banelwyr i drafod y thema Cymroddyfodolaeth. A gyflwynir yn yr iaith Gymraeg, bydd cyfieithu ar y pryd ar gael i’r di-Gymraeg.

Cynhelir y digwyddiad hwn ar-lein drwy Zoom – darperir manylion y cyfarfod atoch ar ol i chi archebu eich lle.

Ail-ddychmygu diwylliant Cymru

Wedi’i chydlynu gan Tŷ Pawb gyda’r Bwrdd Cynghori Ieuenctid (BCI) sydd newydd ei ffurfio, mae’r digwyddiad yn rhan o’r rhaglen gyhoeddus ar gyfer arddangosfa bresennol Tŷ Pawb, Annwn.

Mae’r Bwrdd Cynghori Ieuenctid wedi bod yn datblygu maniffesto i gynrychioli eu gweledigaeth ar gyfer eu Tŷ Pawb nhw, ac mae’r arddangosfa’n cwmpasu hyn. Mae Annwn (gair mytholegol am ‘Arall-fyd’) yn canolbwyntio ar themâu o werin, dyfodoliaeth a dianc, a ddewiswyd gan y Bwrdd.

Yng ngeiriau’r Bwrdd:

“Gan bontio’r dyfodol a’r gorffennol, rydym yn cwestiynu’r potensial i ail-ddychmygu diwylliant Cymru drwy greu ein byd ein hunain – yr arall-fyd o Annwn.”

Panelwyr a Dangosiadau o Ffilmiau

Mae’r pedwar panelwr wedi’u dwyn ynghyd oherwydd eu bod yn cymryd rhan yn yr arddangosfa a/neu eu cysylltiad â’r themâu a nodwyd gan y Bwrdd. Ewch i dudalen y digwyddiad am fwy o wybodaeth am y panelwyr unigol.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau gan bob panelwr, dangosiad o ffilm fer Bedwyr Williams ‘Tyrrau Mawr’, ac yn cau gyda thrafodaeth agored.