june, 2021

18jun6:00 pm8:00 pmFeaturedANNWN: Sgwrs ar Gymroddyfodolaeth

more

Event Details

Cynhelir y digwyddiad hwn ar-lein drwy Zoom – darperir manylion y cyfarfod cyn y digwyddiad.

https://www.eventbrite.co.uk/e/annwn-sgwrs-ar-gymroddyfodolaeth-discussion-on-welsh-futurism-tickets-158566471585

Panelwyr:

Rhodri ap Dyfrig
Miriam Elin Jones (Cadeirydd)
Ani Saunders
Hefin Jones
Bedwyr Williams

Mae’r digwyddiad hwn, a gyflwynir yn yr iaith Gymraeg, yn dwyn ynghyd pump panelwyr i drafod y thema Cymroddyfodoliaeth. Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael i’r di-Gymraeg.

Wedi’i chydlynu gan Tŷ Pawb gyda’r Bwrdd Cynghori Ieuenctid (BCI) sydd newydd ei ffurfio, mae’r digwyddiad yn rhan o’r rhaglen gyhoeddus ar gyfer arddangosfa bresennol Tŷ Pawb, Annwn.

Mae’r Bwrdd Cynghori Ieuenctid wedi bod yn datblygu maniffesto i gynrychioli eu gweledigaeth ar gyfer eu Tŷ Pawb nhw, ac mae’r arddangosfa’n cwmpasu hyn. Mae Annwn (gair mytholegol am ‘Arall-fyd’) yn canolbwyntio ar themâu o werin, dyfodoliaeth a dianc, a ddewiswyd gan y Bwrdd.

Yng ngeiriau’r Bwrdd:

“Gan bontio’r dyfodol a’r gorffennol, rydym yn cwestiynu’r potensial i ail-ddychmygu diwylliant Cymru drwy greu ein byd ein hunain – yr arall-fyd o Annwn.”

Mae’r pump panelwyr wedi’u dwyn ynghyd oherwydd eu bod yn cymryd rhan yn yr arddangosfa a/neu eu cysylltiad â’r themâu a nodwyd gan y Bwrdd.

Rhodri ap Dyfrig: Comisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C, blogiwr, ac arbenigwr yn y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg yw Rhodri ap Dyfrig. Fe’i rhestrir gan Brifysgol Aberystwyth ymhlith y 50 person mwyaf dylanwadol o fewn Addysg Uwch sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yng Nghymru. Cofnododd hanes y genre gwyddonias mewn erthygl o’r enw ‘Cymroddyfodoliaeth’ ar wefan ‘Medium’ yn Nhachwedd 2014, sy’n defnyddio’r hashnod #cymroddyfodol ar Twitter i roi sylw i’r genre yma yn y Gymraeg. Mae hefyd yn un o sefydlwyr y grŵp technoleg gwybodaeth Cymraeg Hacio’r Iaith, a sefydlodd ar y cyd gyda Carl Morris a Rhys Wynne ar 30 Ionawr 2010. Mae ei linell-amser Hanes y We Gymraeg, a gyhoeddwyd yn 2014, yn cofnodi rhai o’r cerrig milltir bwysig yn hanes y we.

Miriam Elin Jones: Astudiodd Miriam Elin Jones lenyddiaeth ffuglen wyddonol y Gymraeg yn rhan o’i gradd PhD o Brifysgol Aberystwyth, gan olrhain datblygiad y genre a dadansoddi’i ddelweddau ac ymddiddori yn yr hyn sydd gan bortreadau o’r dyfodol i’w ddweud am y presennol. Mae Miriam hefyd yn llenor creadigol, yn aelod o Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru ac yn rhan o’r criw sefydlodd gylchgrawn llenyddol Y Stamp.

Ani Saunders: Mae Ani Saunders yn artist adnabyddus – yn ddylunydd, ffotograffydd, ac yn gantores a chynhyrchydd bop electronig sy’n perfformio o dan yr enw Ani Glass. Ei gwaith diweddaraf, nodedig, yw ei halbwm gyntaf Mirores, a ddisgrifiwyd gan Y Twll fel “campwaith”. Yn wreiddiol o ardal Glan-yr-Afon yng Nghaerdydd, bellach mae’n byw yn y gymuned drws nesaf, Grangetown, sydd yn ffinio ar Drebiwt a Bae Caerdydd. Magwyd Ani yn y Gernyweg a’r Gymraeg, ac mae ei thad, ei chwaer a hithau yn aelodau o Orsedh Kernow. Graddiodd Ani yn wreiddiol o Brifysgol John Moores yn Lerpwl ym maes ffasiwn a dylunio ac yn 2018 dychwelodd i addysg uwch i gyflawni gradd Meistr yn Adran Daearyddiaeth a Chynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd. Bellach mae hi wrthi’n gweithio ar ddoethuriaeth sy’n trafod sut y mae trefi ôl-ddiwydiannol yng Nghymru yn newid a datblygu. Mae’n ymddiddori’n fawr mewn materion cyfoes, diwylliannol ac ieithyddol.

Hefin Jones: Dylunydd sy’n byw yng Nghymru, sy’n gweithio ar draws ardaloedd cenedlaethol a rhyngwladol ehangach yw Hefin Jones. Mae Hefin yn aml yn gweithio gyda sefydliadau cyhoeddus, diwylliannol ac addysgol fel rhan o brosiectau ymchwil a dylunio cydweithredol. Mae prosiectau a chydweithrediadau diweddar yn cynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Amgueddfa Victoria ac Albert, Canolfan Niwroddelweddu Wellcome, Theatr Genedlaethol Cymru, a’r Cyngor Crefftau.

Bedwyr Williams: Artist sy’n gweithio ar draws gwahanol gyfryngau gan gynnwys fideo, perfformiad, cerflun a thestun, gan ddod â nhw at ei gilydd yn aml fel gosodiadau mwy yw Bedwyr Williams. Mae ganddo ddiddordeb yn y gwrthdaro rhwng yr agweddau difrifol a’r agweddau banal ar fywyd modern. Yn aml, mae’n defnyddio hiwmor yng nghyd-destun rôl yr artist a rôl y curadur yn erbyn y cefndir hwn gan greu senarios creulon, hurt iddynt ymddangos ynddynt.

Mae sioeau unigol Bedwyr Williams yn cynnwys Oriel Barbican Curve yn Llundain, Limoncello yn Llundain, The Whitworth ym Manceinion, g39 yng Nghaerdydd, Pafiliwn Cymru ar gyfer 55fed Biennale Fenis, IKON ym Mirmingham, ac arddangosfa sydd ar y gweill, Milquetoast, yn Tŷ Pawb ym mis Gorffennaf 2021.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau gan bob panelwr, dangosiadau o ffilmiau gan Hefin Jones a Bedwyr Williams, ac yn cau gyda thrafodaeth agored.

Time

(Friday) 6:00 pm - 8:00 pm

Location

Ar-lein

Comments are closed.

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from Youtube
Vimeo
Consent to display content from Vimeo
Google Maps
Consent to display content from Google
X