Ers mis Mawrth 2020 mae ein perfformiadau ffrwd fyw wedi arddangos 19 o artistiaid ac wedi derbyn 46,547 o welediadau ledled y DU a thu hwnt.

Hoffem ddweud diolch enfawr i’r holl artistiaid ac i’n holl ddilynwyr gwych sydd wedi gwylio, gwneud sylwadau, cyfrannu a chefnogi ni dros y flwyddyn ddiwethaf.

Diolch i’ch cefnogaeth wych, mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd ein perfformiadau ffrwd fyw nawr yn parhau tan fis Ebrill.

Byddwn yn cyhoeddi’r artistiaid sydd ar y gweill yn fuan iawn.

Byddwn hefyd yn rhyddhau Galwad Agored i artistiaid newydd gymryd rhan yn fuan. Cadwch lygad am fwy o wybodaeth am sut i wneud cais.

Ymunwch â’n rhestr bostio i gael yr holl newyddion diweddaraf am ein ffrydiau byw a llawer mwy…

Dilynwch Tŷ Pawb ar:
Facebook
Twitter
Instagram