
- Mae'r digwyddiad yma wedi digwydd.
The House of Jollof Opera
Chwefror 18 @ 1:00 pm - 7:00 pm

Cyd-gynhyrchiad Music Theatre Wales a FIO
Pop-yp bwyd fegan o Nigeria wedi’i weini gydag opera 15 munud o hyd dan ddylanwad hip-hop.
Mae Adeola, y chef, yn teimlo’r gwres, a dy’n ni ddim yn sôn am gawl pupur! Gyda’r pwysau a ddaw o fusnes newydd, babi cyfnod clo, ac archwiliad diogelwch bwyd ar fin cael ei gynnal, sut yn y byd mae ein hegin-entrepreneur bwyd yn mynd i ymdopi?
Mae The House of Jollof Opera yn brofiad byw pop-yp sy’n gweini danteithion Nigeraidd (100% fegan) mewn mannau cwrdd cymunedol ledled Cymru, ynghyd â stori operatig 15 munud o hyd dan ddylanwad hip-hop. Dewch ar daith llawn blas, aroglau a rhythmau yn y sioe gwbl unigryw hon.
Mae’r sioe wedi ei hysgrifennu a’i pherfformio gan Tumi Williams, yr artist o gefndir Cymreig-Nigeraidd, ac yn serennu ynddi hefyd mae’r soprano enwog Gweneth Ann Rand. Wedi ei chyfarwyddo gan Sita Thomas o gefndir Cymreig-Indiaidd, mae The House of Jollof Opera yn wir yn ddathliad o Gymru fodern, amlddiwylliant. Wedi’i seilio ar ffilm fer arobryn a enillodd Wobr am Ffilm Geltaidd, crëwyd The House of Jollof Opera i gorddi ac ail-lunio cysyniadau o opera a pherfformiad artistig byw, yn ogystal â mynd i’r afael â’r annhegwch mewn mynediad at gelf a diwylliant.
Fel artist amlddisgyblaeth, cerddoriaeth yw cariad artistig cyntaf Tumi Williams, ac mae’n gweithio mewn cyfuniad o arddulliau yn cynnwys hip-hop, ffync Affro a jazz. Mae e hefyd yn chef ac yn sefydlydd Jollof House Party, pop-yp sy’n gweini bwyd fegan Nigeraidd.
Mae Dr Sita Thomas yn arweinydd diwylliannol a pherson creadigol sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Mae hi’n Gyfarwyddydd Artistig a Phrif Weithredwr ar Fio, cwmni ym myd y theatr a’r celfyddydau sy’n bodoli i greu newid positif sylweddol yn y sector diwylliannol yng Nghymru, a chefnogi pobl o’r Mwyafrif Byd-eang i’w galluogi i ffynnu yn y celfyddydau.
Dewiswch un o dri pherfformiad a gynhelir yn ystod y dydd – 1pm, 3pm a 6pm
Talu beth allwch chi – ARCHEBWCH YMA
Cast a Chriw
Tumi Williams – Adeola: Chef
Gweneth Ann Rand – Sade: Arolygydd Bwyd
Joe Beardwood a Laurence Collier – Cerddorion
Sita Thomas – Cyfarwyddydd
Jasmine Araujo – Cynllunio
Robert Fokkens – Cymorth Cyfansoddi
Tia Camilleri – Cyfarwyddydd Cynorthwyol
Elayce Ismail – Cymorth Dramatwrgaidd
Manylion
- Dyddiad:
- Chwefror 18
- Amser:
-
1:00 pm - 7:00 pm
- Categori Digwyddiad :
- Digwyddiadau
- Gwefan:
- https://www.eventbrite.co.uk/e/the-house-of-jollof-opera-ty-pawb-wrexham-tickets-523687512447
Trefnydd
Related Digwyddiadau
Newyddion diweddar
- Pan fo’r tywyllwch a’r goleuni’n gyfartal
- 15-17 oed ac yn caru celf? Archebwch nawr ar gyfer ein Dosbarthiadau Meistr Portffolio…
- Dod yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol Tŷ Pawb
- Partneriaeth Gogledd Ddwyrain Cymru Criw Celf a Portffolio 2023: Artistiaid Creadigol
- Gardd Gorwelion – Ein harddangosfa newydd, yn archwilio buddion lles natur
Categorïau newyddion
Archifau newyddion
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffenaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffenaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffenaf 2020
- Mehefin 2020