- Mae'r digwyddiad yma wedi digwydd.
PA GUR gan Chris Ingram: Perfformiad sgript-mewn-llaw o ddrama newydd sy’n cael ei datblygu, yn cynnwys dramâu byrion newydd gan dalent creadigol Wrecsam.
07/12/2023 @ 5:45 pm - 8:00 pm
PA GUR gan Chris Ingram, mewn partneriaeth â Dirty Protest a Tŷ Pawb. Yn cynnwys dramâu byrion newydd gan unigolion dawnus a chreadigol Wrecsam.
Perfformiad sgript-mewn-llaw o ddrama newydd sydd mewn datblygiad ar hyn o bryd.
AM DDIM (archebwch eich lle rhag blaen gan mai nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael)
7 Rhagfyr, 5:30pm – 7:30pm (Drysau/Bar yn agor am 5pm)
Lle Perfformio Tŷ Pawb, Wrecsam
Yn cynnwys cerddoriaeth fyw gan The Jug Band.
Mae Arthur wedi arwain ei filwyr trwy lawer o frwydrau tanbaid er mwyn adeiladu ei deyrnas bersonol o fwytai cadwyn ar draws Gogledd Cymru. Mae, Cai, ei lefftenant ffyddlon wedi bod yno trwy’r cyfan oll. Pan fydd y gwres yn y gegin yn cynyddu, a all eu hanes ar y cyd achub eu cyfeillgarwch a’r cwmni?
Wedi’i ysbrydoli gan y gerdd Gymraeg canol “Pa Gur?” (“Pa fath ddyn yw’r porthor?”), am y frwydr a ddigwyddodd ar fynydd Arthur’s Seat, Caeredin rhwng byddin y Brenin Arthur a derwyddon yr Alban a Chymru. Mae’r ddrama newydd hon gan y dramodydd newydd sbon, Chris Ingram yn trafod grym, brad, a’r hyn sy’n digwydd pan fydd y person rydych chi’n ei garu fwyaf yn troi i fod yn elyn pennaf i chi.
Yn cynnwys cerddoriaeth a chaneuon gwreiddiol y byddwch chi yn eu hadnabod a’u caru, wedi’u perfformio gan The Jug Band: Andy Hickie, Hazel Sian, Natasha Borton a Tim Eastwood.
Perfformir y sgript-mewn-llaw gan Anastacia Ackers ac Owen Pugh
Cyfarwyddir gan Catherine Paskell
Dewch i fod yn rhan o greu theatr newydd yn Wrecsam gan artistiaid lleol!
Dyma berfformiad sgript-mewn-llaw o ddrama newydd sydd wrthi’n cael ei datblygu. Mae hyn yn golygu bod y sgript ar ddechrau ei datblygiad ar gyfer y llwyfan a gallwch chi, y gynulleidfa, ein helpu i greu’r ddrama drwy fynychu’r perfformiad hwn a rhannu eich barn amdani â ni. Fe welwch y ddrama hon yn cael ei pherfformio gan yr actorion. Ar ôl y perfformiad, bydd sgwrs a sesiwn holi ac ateb fer, er mwyn i ni fedru clywed eich barn amdani a’r hyn oedd yn gweithio yn ogystal â’r hyn nad oedd cystal. Bydd eich adborth yn cyfrannu at y cam nesaf o ysgrifennu’r sgript wrth i ni weithio tuag at wireddu cynhyrchiad llawn. Byddwn wrth ein bodd o gael clywed eich barn gan y bydd hyn yn ein cynorthwyo’n fawr o ran gwneud ein dramâu yn rai gwych!
Bydd dramâu byr a ysgrifennwyd gan fynychwyr ein Gweithdy 101 Cyflwyno Ysgrifennu dramâu hefyd yn cael eu perfformio cyn PA GUR (gweler yma am wybodaeth ynghylch sut i archebu lle ar gyfer mynychu’r gweithdy rhad ac am ddim hwn ar 5 Rhagfyr).
Mae Chris Ingram yn fardd, yn gerddor ac yn berfformiwr a aned yn yr Alban, ond sydd bellach yn byw yng Nghonwy, gogledd Cymru. Mae Chris wedi creu cerddoriaeth a pherfformio barddoniaeth ar gyfer sefydliadau lu, yn eu plith: Music in Hospitals a Calon FM ac mae wedi teithio a pherfformio chwedlau cerddorol a pherfformio barddoniaeth mewn gwyliau a digwyddiadau byw gan gynnwys: Gŵyl y Cyrion Caeredin, Gŵyl Rhif 6, Focus Wales, Deershed, Greenman, BBC Introducing ac mae wedi ei berfformio ar BBC 6 Music. Mae ei waith blaenorol gyda Dirty Protest yn cynnwys perfformio mewn digwyddiadau datblygu dramâu byr GŴYL CYMRU ar gyfer Cwpan Pêl-droed y Byd a thaith WALES IS DROWNING. Perfformiodd Chris fel y prif gymeriad yn nrama GUTO mis Tachwedd diwethaf a feddiannodd strydoedd Wrexham: A PROPER ORDINARY MIRACLE a grëwyd gyda’r gymuned ac a gynhyrchwyd gan National Theatre Wales. PA GUR yw drama gyntaf Chris.
Gyda chefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol
Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael. Er mwyn archebu eich lle, e-bostiwch info@dirtyprotesttheatre.co.uk neu cliciwch ar y ddolen hon:
Manylion
- Dyddiad:
- 07/12/2023
- Amser:
-
5:45 pm - 8:00 pm
- Categori Digwyddiad :
- Digwyddiadau
- Gwefan:
- https://www.eventbrite.com/e/pa-gurwhat-man-gan-chris-ingram-pa-gurwhat-man-by-chris-ingram-tickets-768980229567
Related Digwyddiadau
-
Matinée: Cyngherddau Clasurol a Chyfoes Tŷ Pawb – Matthew McLachlan, Datganiad Piano
Hydref 16 @ 1:00 pm - 2:00 pm
Newyddion diweddar
- Tŷ Pawb gwyrddach – Eich llais chi yn ein dyfodol
- Gwnewch gais nawr am stondin ym Marchnad Gwneuthurwyr Wrecsam
- Dewch yn fasnachwr yn Tŷ Pawb
- Plant ysgol yn creu clytweithiau trawiadol wedi’u hysbrydoli gan Gwilt Teiliwr Wrecsam
- Galwad Agored i artistiaid – Cyflwynwch eich gweithiau ar gyfer Arddangosfa Agored Tŷ Pawb
Categorïau newyddion
Archifau newyddion
- Awst 2024
- Gorffenaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Mawrth 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffenaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffenaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffenaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffenaf 2020
- Mehefin 2020