- Mae'r digwyddiad yma wedi digwydd.
Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Tŷ Pawb
Mawrth 1 @ 10:00 am - 6:00 pm
Ymunwch â ni ar ddydd Gwener y 1af o Fawrth ar gyfer dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Tŷ Pawb.
Byddwn yn cynnal stondinau cynnyrch Cymraeg o 10am gyda gweithgareddau Crefft Plant a Cherddoriaeth Fyw gan Megan Lee a Meinir Gwilym rhwng 4pm a 6pm.
Gwybodaeth am y Farchnad/Stondinwyr
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y byddwn yn cynnal Marchnad Dydd Gŵyl Dewi yn Nhŷ Pawb ar ddydd Gwener 1af Mawrth rhwng 10am a 5pm.
Rydym yn cysylltu â busnesau sydd wedi cynnal stondinau neu ymholi yn y gorffennol yn Nhŷ Pawb neu yn nigwyddiadau CBSW i hysbysebu cyfleoedd stondin ar gyfer y diwrnod. Rydym yn edrych yn benodol ar gyfer stondinau crefft, bwyd a diod, ond byddwn yn ystyried cesiadau gan fusnesau eraill.
Mae’r stondinau yn £15 yr un am y diwrnod a bydd y byrddau yn rhai 6 troedfedd x 2 droedfedd. Bydd stondinau wedi’u lleoli yn ardal Gofod Hyblyg Tŷ Pawb, sydd wrth ymyl ein bar a llawer o fasnachwyr mewnol eraill. Mae Wi-Fi da ar gael trwy’r adeilad a pharcio ar gael y nein Maes Parcio Aml-lawr uwchben yr adeilad. Gallwn ddarparu nifer cyfyngedig o bwyntiau trydanol ar sail y cyntaf i’r felin. Nodwch os gwelwch yn dda os bydd angen hyn yn eich ffurflen gais.
Sylwer: Gan fod angen i ni osgoi gwrthdaro â chynigion masnachwyr presennol Tŷ Pawb, bydd angen manylion llawn am gynhyrchion rydych chi’n bwriadu eu gwerthu yn y farchnad. Mae bomiau bath a thoddiadau cwyr wedi’u gwahardd yn llwyr oherwydd cynnig sy’n bodoli eisoes o fewn Tŷ Pawb.
Os hoffech wneud cais am stondin, llenwch a dychwelwch y ffurflen atodedig. Darperir dolen talu unwaith y bydd eich stondin wedi’i chadarnhau.
E-bostiwch typawb@wrexham.gov.uk ar gyfer ffurflen gais am stondin.
Manylion
- Dyddiad:
- Mawrth 1
- Amser:
-
10:00 am - 6:00 pm
- Categori Digwyddiad :
- Digwyddiadau
Lleoliad
- Tŷ Pawb
-
Market St
Wrexham, Wrexham LL13 8BB + Google Map - Phone
- 01978 292144
- View Lleoliad Website
Related Digwyddiadau
Newyddion diweddar
- Tirluniau syfrdanol Cymru i’w dathlu mewn dwy arddangosfa newydd
- Dydd Miwsig Cymru – Mwynhewch ddathliad AM DDIM o gerddoriaeth Gymraeg yn Nhŷ Pawb
- Tŷ Pawb i fod y lleoliad cyntaf ar gyfer arddangosfa deithiol Gwneuthurwyr Sipsiwn
- Cymuned Portiwgaleg Wrecsam yn tynnu lluniau gogledd Cymru ar gyfer arddangosfa newydd
- Trysorau Wrecsam
Categorïau newyddion
Archifau newyddion
- Mawrth 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffenaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffenaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffenaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffenaf 2020
- Mehefin 2020