
- Mae'r digwyddiad yma wedi digwydd.
Clwb Celf Teulu Amlieithog – Gwnewch olwyn generadur stori
Chwefror 4 @ 10:00 am - 12:00 pm

Eleni mae Clwb Celf i’r Teulu yn Amlieithog!
Byddwn yn cynnal sesiynau yn y Gymraeg, Portiwgaleg, Tamil, Sinhala a Telugu – ond peidiwch â phoeni os nad ydych yn siarad yr ieithoedd hyn, mae croeso bob amser i bawb ym mhob sesiwn a gallwch barhau i gymryd rhan yn Saesneg.
Bob wythnos rydym yn cynnig gweithgaredd creu creadigol wedi’i ysbrydoli gan thema chwarae, i’ch cael chi i ddylunio, crefftio a chael hwyl!
Bydd sesiwn yr wythnos hon yn cael ei rhedeg gan yr artist a gwneuthurwr ffilmiau Ffion Pritchard! Byddwn yn dod yn greadigol trwy wneud ein olwynion generadur stori ein hunain. Croesewir cyfranogiad yn Gymraeg a Saesneg.
Mae Clwb Celf i’r Teulu yn weithgaredd ‘talu beth allwch chi’ sy’n cynnwys yr holl ddeunyddiau a grawnfwyd brecwast a sudd i blant.
Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
Os hoffech ragor o wybodaeth am Glwb Celf Amlieithog i’r Teulu, anfonwch e-bost at: heather.wilson@wrexham.gov.uk