O ddydd Llun 12 Ebrill, mae pob siop yn Wrecsam gan gynnwys manwerthu nad yw’n hanfodol yn gallu ailagor.

Bydd ein marchnad ac ardal fwyd (tecawê yn unig) ar agor 10am-4pm Llun-Sad.

Bydd masnachwyr cwrt bwyd dethol ar agor tan 6pm Llun-Sad ar gyfer tecawê.

Gweler ein cyfeirlyfr o fasnachwyr

Bydd ein maes parcio ar agor fel arfer. Gweler amseroedd agor a thaliadau.

Mae hwn yn amser pwysig i helpu i gefnogi ein busnesau lleol. Ond cofiwch – nid yw’r firws wedi diflannu ac mae’r un mor bwysig ag erioed i gadw’n ddiogel wrth i fesurau cloi i lawr gael eu lleddfu.

Rydym wedi cymryd mesurau i sicrhau y gallwch chi fwynhau’ch ymweliad yn ddiogel.

  • Mae system unffordd gyda goleuadau traffig ar waith gyda chyfyngiadau ar faint o bobl a ganiateir yn yr adeilad ar unrhyw un adeg.
  • Gofynnwn i bob ymwelydd barhau i ddilyn canllawiau pellhau cymdeithasol a gwisgo mwgwd wyneb oni bai ei fod wedi’i eithrio.
  • Mae gorsafoedd glanweithio dwylo wedi’u gosod wrth y mynedfeydd.

Darganfod mwy am siopau canol tref Wrecsam yn ail agor

Dilynwch Tŷ Pawb ar:
Facebook
Twitter
Instagram

Ymunwch â’n rhestr bostio