Mae Tŷ Pawb a rhai o orielau celf mwyaf eiconig y DU wedi dod at ei gilydd a chydweithio i ddathlu pencampwyr sydd heb eu cydnabod o fewn y sector gelfyddydol eleni.

Bydd yr arddangosfa ddigidol unigryw gan Y Loteri Genedlaethol yn arddangos 13 o bortreadau pwerus a theimladwy sydd wedi cael eu tynnu gan y ffotograffydd blaenllaw, Chris Floyd.

Mae’r casgliad yn dathlu’r unigolion anhygoel led led y DU sy’n parhau i weithio’n ddiflino trwy’r pandemig i gyflwyno creadigrwydd, mwynhad a chyfoethogiad trwy’r celfyddydau i bobl mewn ffyrdd newydd.

Ymhlith y partneriaid arddangos mae’r Oriel Bortreadau Genedlaethol, MAC Belfast, Sefydliad Ffilm Prydain (BFI), Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Summerhall (Caeredin), Oriel IKON (Birmingham), Canolfan Grefft Rhuthun ac Oriel y Ffotograffwyr (Llundain).

I wybod mwy am y 13 o bobl anhygoel sydd tu cefn i’r portreadau, edrychwch ar https://www.lotterygoodcauses.org.uk/news/blog/category/championsart

Dilynwch Tŷ Pawb ar:
Facebook
Twitter
Instagram

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb