Ydych chi’n berson ifanc 16-25 oed sydd â diddordeb yn y celfyddydau a diwylliant?

Pa bynnag ffurf ar gelf y mae gennych ddiddordeb ynddo – p’un a yw hynny’n gerddoriaeth, dawns, ffilm, graffeg, gemau, ffasiwn neu rywbeth hollol wahanol – gallai ymuno â Bwrdd Cynghori Ieuenctid Tŷ Pawb fod yn gam nesaf i chi.

Mae Bwrdd Cynghori Ieuenctid Tŷ Pawb yn gyfle i:

– Gweithio gydag artistiaid proffesiynol a phobl ifanc greadigol eraill
– Dysgu sgiliau ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau creadigol
– Cyfrannu at gynllunio digwyddiadau ac arddangosfeydd
– Ennill cymhwyster Gwobr Celfyddydau
– Rhowch adborth ar raglen Ty Pawb
– Llunio dyfodol y celfyddydau yn Wrecsam.

I gael mwy o wybodaeth am y prosiect e-bostiwch: typawbcommunityproducer@gmail.com

Rydym yn croesawu pobl ifanc o bob cefndir a phob gallu sy’n byw, gweithio neu astudio ym Mwrdeistref Sir Wrecsam.

Ffurflen Gais Bwrdd Cynghori Ieuenctid Tŷ Pawb

    Dilynwch Tŷ Pawb ar:
    Facebook
    Twitter
    Instagram

    Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb