Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam a Tŷ Pawb yn cydweithio i ddod a chelf gartref
Mae pethau gwych yn gallu digwydd pan fo pawb yn cydweithio; ac mae hynny’n wir iawn am y prosiect anhygoel yma sydd, hyd yn hyn, wedi danfon 99 pecyn celf i blant Wrecsam – ac mae mwy i ddilyn!
Mae’r prosiect ‘pecyn celf’ yn ymdrech ar y cyd rhwng Tŷ Pawb a chynllun bagiau bwyd ‘At The End Of The Rainbow’, sef partneriaeth rhwng Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam, Gwasanaeth Arlwyo Prydau Ysgol CBSW a gwirfoddolwyr AVOW.
Bu i’r bartneriaeth nodi’r teuluoedd a fyddai’n elwa fwyaf ar dderbyn pecynnau celf a bu i Tŷ Pawb ddarparu’r pecynnau, sydd wedi’u dylunio a’u prynu’n arbennig ar gyfer y prosiect hwn fel rhan o’u gwaith sydd wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Cafodd y 99 pecyn eu danfon gan wirfoddolwyr gwych AVOW i deuluoedd yn Wrecsam, gan gyflenwi adnoddau celf i 168 o blant.
Mae yna hefyd 15 pecyn arall i’w danfon i 40 o blant eraill… felly, gyda’i gilydd, bydd y prosiect wedi darparu pecynnau i dros 200 o blant… mae hynny’n beth hollol wych!
Beth sydd yn y pecynnau celf?
Mae pob pecyn celf yn dod mewn ffolder sip blastig A3 ac yn cynnwys:
• Llyfr braslunio A4
• Llyfr braslunio A5
• Set o baent dyfrlliw gyda 14 lliw gwahanol
• 2 frwsh (bach a chanolig)
• 1 rhwbiwr
• Pensiliau darlunio graffit
• Pecyn o 12 o bensiliau lliw
• Pecyn o 12 pastel olew
• Pecyn o 12 pin ffelt
• 1 glud
• Detholiad o gardiau o liwiau sylfaenol
• 4 taflen weithgaredd o weithdai ein Clwb Celf i’r Teulu (Cymraeg a Saesneg)
“Adnodd ychwanegol gwych i deuluoedd yn ystod y cyfnod hwn”
Gan fod ar lawer o deuluoedd angen adnoddau ychwanegol i ddiddanu eu plant yn sgil y pandemig, mae’r gwaith sydd wedi’i wneud i greu’r pecynnau hyn wedi’i werthfawrogi’n fawr iawn, yn enwedig ymdrech y gwirfoddolwyr caredig.
Meddai Tricia Bridgewater, Arweinydd Prosiect At The End Of The Rainbow: “Mae’r bagiau crefft wedi bod yn adnodd ychwanegol gwych i deuluoedd yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n dangos beth y mae modd ei wneud os ydym ni’n cydweithio. Mae gwirfoddolwyr AVOW wedi’i gwneud hi’n bosibl i’r adnoddau gwych yma gael eu dosbarthu yn uniongyrchol i deuluoedd ar draws Wrecsam.”
“Enghraifft wych o’r ffordd y gall cydweithio roi budd gwirioneddol i’r gymuned”
Meddai’r Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Dyma enghraifft wych o’r ffordd y gall cydweithio roi budd gwirioneddol i’r gymuned. Ni fyddai prosiect y pecynnau celf wedi bod yn bosibl oni bai bod y gwasanaethau hyn wedi dod at ei gilydd i wneud yn siŵr bod y deunyddiau yn cyrraedd y teuluoedd yn Wrecsam sy’n gallu gwneud defnydd go iawn ohonyn nhw. Da iawn bawb sydd wedi bod yn rhan o hyn.”
Meddai’r Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Diolch yn fawr iawn i Tŷ Pawb am eu rhoddion caredig, ac mae’n rhaid canmol pawb sydd wedi gweithio’n ddiflino i wneud i hyn ddigwydd. Mae’r ffaith y bydd dros 200 o blant wedi gallu manteisio ar y pecynnau celf yma yn profi bod y bartneriaeth wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Rydym ni’n edrych ymlaen rŵan at weld campweithiau’r plant.”
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam yn darparu cyngor a chymorth i deuluoedd yn ardal Wrecsam ar amrywiaeth o faterion pwysig fel gofal plant, cymorth rhianta, gwasanaethau plant a phobl ifanc, cymorth gyda chostau gofal plant, gwasanaethau ar gyfer plant anabl a phlant gyda gydag anghenion ychwanegol…a llawer, llawer mwy.
Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth drwy ffonio 01978 292094 neu anfon neges i fis@wrexham.gov.uk