Rydym yn chwilio am gynigion gan Artistiaid a Gwneuthurwyr Ffilmiau i greu ffilm fer (5-6 munud) sy’n dathlu’r gwaith i adeiladu Maes Parcio Creadigol.

Fe fydd y ffilm yn cael ei dangos yn arddangosfa Gardd Gorwelion rhwng y 27ain o Ionawr a’r 21ain o Ebrill 2023.

Byddai dull a chynnwys y ffilm yn adeiladu ar y partneriaethau llwyddiannus a grëwyd yn ystod y prosiect, yn darparu etifeddiaeth sy’n dogfennu datblygiad yr ardd fel gofod ffisegol ac yn rhoi cipolwg ar waith ein cydweithwyr creadigol a’u cydnabod wrth i’r prosiect barhau.

Hoffem hefyd gomisiynu 8-10 o bortreadau fformat mawr a fydd hefyd yn ymddangos yn yr arddangosfa. Mae cyllideb deunyddiau ar wahân o £1000, ar gael i’w hargraffu.

Ffi

Mae cyllideb sefydlog o £4,750 wedi’i ddyrannu ar gyfer ffioedd yr artist, i gynnwys deunyddiau, costau cyfieithu, ac unrhyw gostau eraill. Mae yna £1,000 ychwanegol ar gyfer cynhyrchu 8-10 o bortreadau ffotograffig fformat mawr.

Amserlen y Comisiwn

Dyddiad cau ymgeisio: 5pm Dydd Llun 23 Awst 2022
Dyddiad cyfweld: dydd Iau 25 Awst 2022
Dyddiad cychwyn: Dydd Llun 29 Awst 2022
Dyddiad cwblhau: 9 Ionawr 2023

Cyflwyniad

Rhaid i’r cynigion gynnwys y wybodaeth a’r gofynion canlynol –

• CV presennol
• Hyd at 5 enghraifft o waith blaenorol NEU dolen at wefan gyfredol
• Cynnig o ddim mwy na dwy ochr A4, gan dynnu sylw at eich cysyniad ffilm
• Cyllideb amcangyfrifedig
• Cadarnhad eich bod ar gael i ymgymryd â’r gwaith o fewn yr amserlen a ddarperir i Karen.whittingham@wrexham.gov.uk dim hwyrach na 5pm ddydd Llun 23 Awst 2022.

Cefndir

Mae Maes Parcio Creadigol yn brosiect ar y cyd rhwng Tŷ Pawb, KIM Inspire, Addo, a’r artistiaid Marja Bonada ac Owen Griffiths. Bydd y partneriaid yn ymchwilio i sut gellir defnyddio sensibilïau cyd-gynhyrchu i ymarfer artistig, yng nghyd-destun datblygu man gwyrdd newydd arbrofol ar do maes parcio Tŷ Pawb, er budd creadigrwydd a lles pobl leol.

I ddechrau, mae grŵp o KIM Inspire, elusen iechyd meddwl, wedi gweithio gyda’r artistiaid Marja Bonada a John Merrill i gynllunio a dylunio gofod yr ardd, a fydd yn cynnwys yn y man cyntaf lloches/gweithdy awyr agored a gofod storio. KIM Inspire yw’r grŵp craidd a’r rhai sydd wedi arwain y gweithgaredd dylunio, fodd bynnag rydym yn parhau i gynnwys partneriaid eraill yn y gweithgaredd hwn, megis Bom Dia Cymru, grŵp o henuriaid o Bortiwgal sy’n arddwyr brwd. Ar hyn o bryd mae uchelgeisiau i edau’r llinyn gwyrdd hwn y tu hwnt i’r to a thrwy Gydol Tŷ Pawb. Mae’r prosiect hwn felly’n parhau ethos cydweithio Tŷ Pawb ac yn rhan o ymholiad ehangach i fethodoleg ar gyfer sefydliadau diwylliannol a arweinir gan etholwyr, gan gwmpasu sawl elfen o weithgaredd sy’n bwysig yn y rhaglen. Sef:

• ‘Celf Ddefnyddiol’ – addasu, ymateb a datblygu i ddarparu ar gyfer anghenion sy’n datblygu ac yn newid;
• Tyfu ac adeiladu partneriaethau cryf gyda phartneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol;
• Datblygu arferion busnes gwyrdd, moesegol a chynaliadwy;
• ‘Gwneuthurwyr a Marchnadoedd’ – meithrin cyfleoedd masnachol newydd ar gyfer artistiaid, gwneuthurwyr a masnachwyr.

Mae’r prosiect yn derbyn arian Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru.