Rydym yn chwilio am ymarferydd celfyddydol brwdfrydig, creadigol a threfnus, i gynllunio, cyflwyno a gwerthuso ein Clwb Celf i Deuluoedd, sy’n digwydd ar foreau Sadwrn.

Bydd y contract hwn i gynnal 23 o sesiynau rhwng 11fed Medi 2021 a 26ain Mawrth 2022.

Y ffi benodedig am hyn yw £5,200, gan gynnwys teithio, deunyddiau ac unrhyw dreuliau eraill.

Dylid cynllunio rhaglen y Clwb Celf i Deuluoedd i ymgysylltu â phlant 4-11 oed a’u teuluoedd, gan gymryd ysbrydoliaeth o arddangosfeydd Tŷ Pawb, y rhaglen gelfyddydol ehangach a neuadd y farchnad. Hoffem i’r sesiynau adlewyrchu ethos Tŷ Pawb, a phwysigrwydd iaith a diwylliant Cymru.

Fel arfer, cynhelir sesiynau o fewn y Gofod Celf Defnyddiol yn Tŷ Pawb, ond yn dibynnu ar gyfyngiadau newidiol bydd angen cael cynlluniau wrth gefn digidol ar waith.

Mae’r rôl yn cynnwys cynllunio, sefydlu a glanhau wedi’r sesiwn, monitro (adborth, caniatâd lluniau ac adroddiad gwerthuso diwedd prosiect), darparu cynnwys marchnata a dogfennu pob sesiwn. 

Mae potensial i isgontractio ar brydiau, gyda gwybodaeth, cyfranogiad a chydsyniad Tŷ Pawb ymlaen llaw.

I wneud cais, anfonwch e-bost at karen.whittingham@wrexham.gov.uk gyda:

– CV cyfredol (dim mwy na 2 dudalen)

– Llythyr yn amlinellu eich addasrwydd ar gyfer y rôl

Os cewch eich gwahodd i gyfweliad yna bydd angen 2 x tystlythyr

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ddydd Mercher 11 Awst, ac mae angen i ymgeiswyr fod ar gael i’w cyfweld ddydd Iau 19eg Awst.