Mae Tŷ Pawb yn chwilio am gydlynydd ar gyfer Print Rhyngwadol 2021- arddangosfa agored ar gyfer artistiad  argraffi traddodiadol a chyfoes.  

Eleni byddwn yn dathlu 20 mlynedd ers sefydlu y Ganolfan Argraffu Rhanbarthol yn ystod yr arddangosfa hwn.

Rydym wedi cynnal arddangosfa Print Rhyngwladol bob yn ail blwyddyn yn Wrecsam ers tua 20 mlynedd, ag eithro’r cyfnod pan datblygwyd Tŷ Pawb.

Yn 2019/20, cafwyd dros 85 o Argraffwyr o 10 gwlad a thros 3 cyfandir yn yr arddangosfa.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus rhan allweddol wrth weithredu a chynnal  Print Rhyngwladol 2021.  Bydd y swydd yn cychwyn o’r cyfnod pan cyhoeddir ymgeisiadau gan artistiaid fyny at agoriad yr arddangosfa hyd yr amser pan fydd y gwaith celf yn cael eu dychwelyd yn ddiogel.

Bydd y cydlynydd yn cydweithio ar y cyd gydag aelodau o Tŷ Pawb a’r Ganolfan Argraffu Ranbarthol. Bydd y swydd yn cyfle gwych i ennyn profiad mewn awrgylch celfyddydol prysur.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB.

Cydlynydd Argraffiad Rhyngwadol 2021 – Disgrifiad Swydd

Oriau: 30 diwrnod x £150

Tâl: £4,500

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 21/05/2021

Diwrnod cyfweliad (wythnos yn dechrau): 1/6/2021

Diwrnod cyntaf: 7/06/2021

Diwrnod olaf: 25/03/2022

Cyfrifoldebau

  • Ateb cwestiynau’r cyhoedd
  • Creu sylfaen data ymgeiswyr
  •  Cysylltu â Noddwyr a Phartneriaid
  • Rheoli taliadau mynediad
  • Bod yn gyfrifol ar y cyd gyda tim Tŷ Pawb am farchnata’r cyfryngau cymdeithasol.
  • Bod y gyfrifol am dderbyn a dychwelyd gweithiau celf.
  • Cysylltu ag artistiaid, technegwyr ac aelodau eraill drwy gydol yr arddangosfa
  • Creu rhestr o’r gwaith / labeli ar gyfer yr arddangosfa

Manyleb Person

Hanfodol:

  • Profiad blaenorol ym maes gweinyddu
  • Rhoi sylw rhagorol i bob manyldeb.
  • Gwybodaeth a gwerthfawrogiad o’r broses argraffu.
  • Sgiliau rhyngbersonol da
  • Yn gyfarwydd gyda’r Cynllun Casglu
  • Rhaid bod wedi cofrestru yn hunangyflogedig ac yn gymwys i weithio yn y DU

Dymunol:

  • Iaith Gymraeg
  • BA o fewn pwnc creadigol
  • Gwybodaeth ynglyn a trin gwaith celf

Sut i ymgeisio

Anfonwch e-bost i typawb@wrexham.gov.uk  gyda ‘Print Rhyngwadol 2021’ fel pwnc gan amgau y dogfennau canlynol:-

  • CV Llawn
  • Llythyr eglurhaol yn amlinellu eich cymwysterau ar gyfer y swydd, gan gyfeirio at cyfrifoldebau a manyldeb personol, gan ehangu ar unrhyw brofiad rhestrwyd yn eich CV (mwyafrif 500 o eiriau)

Dilynwch Tŷ Pawb ar:
Facebook
Twitter
Instagram