CRIW CELF Ar gyfer pobl ifanc 9-14 oed

Ydych chi wrth eich bodd yn lluniadu, peintio, crefftio, treulio amser yn dyfeisio cymeriadau, gwneud animeiddiadau, gwneud gemwaith, neu weithgareddau crefft eraill.

Ymunwch â Phrosiect Celf Criw Celf a rhoi hwb i’ch creadigrwydd, dysgu sgiliau newydd ac arbrofi gyda deunyddiau mewn amgylchedd â chymorth.

Byddwch yn gallu mynychu chwe Gweithdy Celf, derbyn eich pecyn deunyddiau celf eich hun, cael arddangos eich gwaith celf yn Llyfrgell Wrecsam a mynd ar daith i Oriel Mostyn yn Llandudno.

Bydd dau grŵp:

1 – Tŷ Pawb, Stryd y Farchnad, Wrecsam, LL13 8BY

2 – Canolfan Gymunedol Y Parciau, Parc Bellevue, Wrecsam, LL13 7LY

Cost: £38 (lleoedd wedi’u hariannu ar gael – Beverley.Jepson@glyndwr.ac.uk )

(Mae’r pris yn cynnwys pob un o’r chwe dosbarth meistr, eich Pecyn Deunyddiau Celf eich hun, eich gwaith yn rhan o Arddangosfa Criw Celf a thaith i Oriel Mostyn yn Llandudno)

Dyddiadau:

Dydd Sadwrn – Ebrill 22ain

Dydd Sadwrn – Ebrill 29ain

Dydd Sadwrn – Mai 13eg

Dydd Sadwrn – Mai 20fed

Dydd Sadwrn – Mai 27ain

Dydd Sadwrn – Mehefin 3ydd

Bydd y sesiynau rhwng 10am a 3pm

Am fwy o wybodaeth e-bostiwch: Beverley.Jepson@glyndwr.ac.uk