Mae’n bleser gennym gadarnhau bod Tŷ Pawb wedi bod yn llwyddiannus yn ei gais i ddod yn rhan o bortffolio cenedlaethol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae’r Adolygiad Buddsoddi yn darparu cyllid aml-flwyddyn i sefydliadau, gan ddyrannu cyfanswm o £29.6m o gyllid gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.

Gofynnwyd i sefydliadau ymateb i Chwe Egwyddor Cyngor Celfyddydau Cymru – Creadigrwydd, Ehangu Ymgysylltiad, yr Iaith Gymraeg, Cyfiawnder Hinsawdd, Meithrin Talent, a Thrawsnewid.

Mae Tŷ Pawb yn un o 81 o sefydliadau creadigol i gael cynnig grantiau amodol yn dilyn canlyniadau proses Adolygiad Buddsoddi 2023 Cyngor Celfyddydau Cymru.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol sydd â chyfrifoldeb dros Tŷ Pawb, y Cyng Hugh Jones: “Mae hwn yn gyflawniad arwyddocaol i Tŷ Pawb, Tîm y Celfyddydau a phawb sy’n ymwneud â chreu canolfan o statws Cenedlaethol a Rhyngwladol. Llongyfarchiadau iddynt am lunio cais mor gryf.

“Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi nodi bod y broses ymgeisio eleni yn “hynod gystadleuol” gyda’r nifer uchaf erioed o geisiadau. Mae gweld Tŷ Pawb yn dod yn un o’r 23 sefydliad i sicrhau cyllid aml-flwyddyn am y tro cyntaf yn adlewyrchiad clodwiw o’r statws sydd ganddo bellach fel cyrchfan diwylliannol Cymraeg elitaidd. Mae hyn yn adlewyrchiad o safon uchel ac uchelgais rhaglen gelfyddydol sy’n asio perthnasedd lleol yn gyson ac yn llwyddiannus ag arwyddocâd rhyngwladol.”

Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: “Mae’r Adolygiad Buddsoddi hwn yn cynrychioli newid cadarnhaol iawn i’r celfyddydau yng Nghymru, a fydd yn arwain at gyfleoedd newydd i bobl o bob cefndir allu cymryd rhan yn y celfyddydau a mwynhau creadigrwydd o’r safon uchaf.

“Cawsom y nifer uchaf erioed o geisiadau am gyllid, a hynny gan 139 o sefydliadau cymwys.

“Rydym yn hynod falch o allu cynnig arian i 81 sefydliad ledled Cymru, er ein bod yn cydnabod nad oes modd i ni ariannu pawb, na chyllido pob sefydliad i’r lefel y bydden nhw’n ddymuno.

“Bydd y penderfyniad i beidio parhau ag ariannu rhai sefydliadau’n siŵr o arwain at drafodaeth eang, un y byddwn yn ei chroesawu – er y bydd ein Ymyriadau Strategol yn ymateb i unrhyw fylchau fydd yn cael eu creu mewn ambell faes o ganlyniad i’n penderfyniadau.

“Un ffordd yn unig o ariannu’r celfyddydau yw’r Adolygiad Buddsoddi, a gefnogir ynghyd â’n rhaglenni Dysgu Creadigol, Celfyddydau ac Iechyd, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, a Noson Allan, yn ogystal â chyfleoedd cyllido eraill, gan gynnwys Camau Creadigol, y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol, a Creu.”

Darganfod mwy am Adolygiad Buddsoddi 2023 Cyngor Celfyddydau Cymru.