Mae plant o gymuned ffoaduriaid o Syria yng Ngogledd Cymru wedi bod yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai celf ar-lein sydd wedi’u cynllunio i helpu i adeiladu cydlyniant cymunedol a mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol.

Ymunodd pedwar ar ddeg o blant ffoaduriaid o Syria o dair sir ledled Gogledd Cymru â’r prosiect ‘Drawing Connections’ sy’n cael ei arwain gan yr artist Wendy Connelly o i-RAW Studios gyda chefnogaeth Tŷ Pawb.

Fel rhan o’r prosiect, aethpwyd â chyfranogwyr hefyd ar daith rithwir o amgylch Arddangosfa Agored Tŷ Pawb sy’n dathlu creadigrwydd yn ystod y cyfnod cloi.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB.

Yn ogystal â helpu i wella cydlyniant a lles cymunedol, mae’r gweithdai wedi’u cynllunio i helpu cyfranogwyr i ennill ‘Explore Level Arts Award’ – cymhwyster cenedlaethol sy’n cefnogi pobl ifanc sydd am ddyfnhau eu hymgysylltiad â’r celfyddydau ac adeiladu sgiliau creadigol ac arwain.

Mae’r prosiect hefyd wedi gweithredu fel peilot ar gyfer hyfforddiant Arts Award ar-lein i bobl ifanc sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol.

Trefnwyd Drawing Connections gan Engage Cymru ac fe’i hariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Tîm Cydlyniant Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam, Cymdeithas Tai Cymru a Gorllewin a Arts & Business Cymru drwy’r rhaglen CultureStep.

Hoffai Engage Cymru gydnabod cefnogaeth ychwanegol gan Gynllun Ailsefydlu Pobl Agored i Niwed Wrecsam, Gwasanaeth EAL Wrecsam a thimau gweithwyr achos y Groes Goch Brydeinig ledled Sir Ddinbych, Wrecsam a Chonwy.

Enghraifft wych arall o Tŷ Pawb yn cydweithio

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Amddiffyn y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam: “Mae’r prosiect Drawing Connections yn enghraifft wych arall o Tŷ Pawb yn gweithio’n agos gyda sefydliadau eraill i gefnogi cymunedau trwy’r celfyddydau.

“Trwy gydol y pandemig mae Tŷ Pawb wedi parhau i gynnig gwasanaeth celfyddydol rhagorol o bell, a’r nod yw helpu pobl i aros yn gysylltiedig trwy’r amseroedd heriol hyn. Mae hyn wedi cynnwys dosbarthu pecynnau celf i deuluoedd lleol, cynnig gweithgareddau am ddim i deuluoedd, hyfforddiant ar-lein a chomisiynau ar gyfer artistiaid, perfformiadau cerddoriaeth ffrydio byw a thaith rithwir ragorol o Arddangosfa Agored Tŷ Pawb. “

Dilynwch Tŷ Pawb ar:
Facebook
Twitter
Instagram

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb