Gwneuthurwr Dylunwyr

Gwneuthurwr Dylunwyr // Lamp yr Hippodrome // Menter Gymdeithasol
Rydym wedi gweithio gyda phobl leol drwy gyfres o weithdai i gynhyrchu’r lamplen fodern, hynod ddymunol hon, â’i choed wedi eu plygu gyda stêm a’r cyfan wedi ei ysbrydoli gan steil Art Deco’r 1930’au.
Dyluniwyd y lamp gan Tim Denton ac mae wedi’i seilio ar olau’r Hippodrome a gafodd ei achub a’i adfer gan grŵp Hanes Wrecsam ac mae bellach i’w weld yn Arcêd y De Tŷ Pawb.
Ar gael i’w brynu ar-lein yn Siop//Shop Tŷ Pawb.
Tŷ Pawb // Prosiectau Gwneuthurwr Dylunwyr Cyfle Cymru 2015-2020
Mae’r prosiectau menter gymdeithasol yma wedi cynhyrchu deunyddiau hardd a dymunol i’r cartref. Cânt eu creu mewn gweithdai sy’n tywys y cyfranogwyr ar daith o ddarganfod, gan ddysgu sgiliau newydd am gynllunio ac amdanynt eu hunain, o’r cyflwyniad cyntaf a’r creu hyd at y pwynt gwerthu drwy’r Siop//Shop.
Mae’r cydweithio hwn wedi cynnwys elusennau lleol yn Wrecsam – Advance Brighter Futures, Tŷ Hyrwyddwyr a KIM Inspire.
Rydym wedi derbyn cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, CBSW ac Arian Loteri Treftadaeth.



2015 – 2016
Rownd 1. Cynnyrch cartref wedi ei argraffu â sgrin yn fentrus a lliwgar a’r cynnyrch yn cynnwys lamplenni, clustogau, bowlenni bychain, bagiau neges a llwyau caru ac ar werth drwy oriel fanwerthu Cyfle Cymru yn Stryt Caer.
Cafodd y gweithdai eu harwain gan yr artist lleol Rhi Moxon mewn cydweithrediad â’r artist Sara Jane Harper a chyfranogwyr o Advance Brighter Futures (ABF).
http://thedesignermakerproject.tumblr.com/
Mae ABF yn helpu pobl yn Wrecsam i greu bywydau hapusach a llawnach drwy wella lles meddyliol. https://www.advancebrighterfutureswrexham.co.uk/wp/cy/cartref/
Rownd 2. Bu cyfranogwyr o ABF yn gweithio gyda Rhi Moxon i greu cynlluniau ar liain gydag argraffu sgrîn llaw. Seiliwyd y motifau ar nodweddion pensaernïol yn Eglwys San Silyn, Wrecsam. Defnyddiwyd y defnydd i greu lamplenni a chlustogau a’u gwerthu drwy Cyfle Cymru yn y Siop//Shop.
Mae’r Siop//Shop ei hun yn ffordd o gyflwyno’r rhaglen a phrosiectau cymunedol. Ynghyd â gwaith gan artistiaid a gwneuthurwyr lleol a chenedlaethol, rydym yn gwerthu ac yn cefnogi gwneuthurwyr cyswllt cymdeithasol fel Jolt, Granby Workshop, ac Arthouse Unlimited sy’n creu cynnyrch gyda golwg ganolog ar gynhwysiad cymdeithasol.
Mae busnesau menter gymdeithasol yn masnachu er mwyn mynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol, er mwyn gwella cymunedau, cyfle pobl mewn bywyd, neu i wella’r amgylchedd.
2018 – 2020
Rownd 3. Comisiynwyd Tim Denton i gynllunio prototeip gwaith ar gyfer lamplen bren i’w gweithgynhyrchu gan grŵp. www.timdenton.info
Cynhaliwyd y gweithdy gan Adam Netting, Technegydd yr Oriel, gyda chyfranogwyr o’r elusen leol Tŷ Hyrwyddwyr.
https://www.cais.co.uk/services/champions-house-recovery-hub
Mae Tŷ Hyrwyddwyr yn amgylchedd creadigol, gweithgar a chefnogol i bobl sydd wedi bod yn gaeth i gyffuriau neu alcohol ond sydd bellach yn ceisio gwella.


Dechreuodd y prosiect 14 wythnos cychwynnol ym mis Awst 2018 a’r adeg honno, bu John Davies a Graham Lloyd o Gymdeithas Hanes Wrecsam – yn rhoi gwybodaeth gefndir am achub lamp wreiddiol 1930 a’i gwerth o ran treftadaeth ein cymuned. Daw cynllun y lamplen o olau’r Hippodrome, sydd bellach wedi ei osod yn Arcêd y De yn Tŷ Pawb.
Mae dros 20 lamp wedi eu gwneud a’u gwerthu drwy’r Siop//Shop ac yn ystod ein siop dros dro yn The Good Life Experience – Penarlâg 2019.
ownd 4. Ar fore dydd Iau, bu cyfranogwyr Grŵp Dynion KIM4Him yn dysgu am hanes y lamp a chefndir y cynllun gan Tim Denton.
Byddai’r sesiynau dilynol yn annog pob aelod i greu ei lamplen ei hun a chreu mwy o gyflenwad i’w werthu ond yn anffodus, tarfwyd ar hynny gan bandemig COVID 19. Y gobaith yw y bydd gweddill y sesiynau yn ailgychwyn unwaith y bydd yr Orielau’n agor eto.
https://kim-inspire.org.uk/kim4him/
Mae rhaglen adfer dynion KIM Inspire yn cefnogi dynion i wella eu lles drwy weithgarwch a chynhwysiant.