Gwneuthurwr Dylunio

Lusern Hippodrome / Menter Gymdeithasol

Rydym wedi gweithio gyda phobl lleol drwy gyfres o weithdai i gynhyrchu’r lusern fodern, cyfoes a hynod o ddymunol hon. Yn defnyddio phren wedi eu plygu gyda stêm, mae’r cyfan wedi ei hysbrydoli gan steil Art Deco’r 1930au.

Dyluniwyd y lamp gan Tim Denton ac mae wedi’i seilio ar olau’r Hippodrome a gafodd ei achub a’i adfer gan grŵp Hanes Wrecsam ac mae bellach i’w weld yn Arcêd y De, Tŷ Pawb. 

Ar gael i’w brynu ar-lein ac yn Thŷ Pawb.

Cysylltwll ag Thŷ Pawb ar gyfer ymholiadau.

Prosiectau Gwneuthurwr Dylunio 2015-2020

Mae’r prosiectau menter gymdeithasol yma wedi cynhyrchu deunyddiau hardd a dymunol i’r cartref. Cânt eu creu mewn gweithdai sy’n tywys y cyfranogwyr ar daith o ddarganfod, gan ddysgu sgiliau newydd am gynllunio ac amdanynt eu hunain, o’r cyflwyniad cyntaf a’r creu hyd at y pwynt gwerthu drwy Tŷ Pawb.

Mae’r prosiectau yma mewn cydweithriad gyda elusennau lleol yn Wrecsam sef – Advance Brighter Futures, Tŷ Hyrwyddwyr a KIM Inspire.

Rydym wedi derbyn cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, CBSW ac Arian Loteri Treftadaeth.

2015 – 2016

Rownd 1.

Cynnyrch cartref wedi ei argraffu â sgrin yn fentrus a lliwgar a’r cynnyrch yn cynnwys lusernau, clustogau, bowlenni bychain, bagiau a llwyau caru sydd ar werth drwy oriel fanwerthu Cyfle Cymru yn Stryd Caer.

Cafodd y gweithdai eu harwain gan artist lleol Rhi Moxon mewn cydweithrediad â’r artist Sara Jane Harper a chyfranogwyr o Advance Brighter Futures (ABF).

http://thedesignermakerproject.tumblr.com/

Mae ABF yn helpu pobl yn Wrecsam i greu bywydau hapusach a llawnach drwy wella lles meddyliol. https://www.advancebrighterfutureswrexham.co.uk/wp/cy/cartref/

Rownd 2.

Bu cyfranogwyr o ABF yn gweithio gyda Rhi Moxon i greu cynlluniau ar lliain gydag argraffu sgrîn llaw. Seiliwyd y motifau ar nodweddion pensaernïol yn Eglwys San Silyn, Wrecsam. Defnyddiwyd y defnydd i greu lamplenni a chlustogau a’u gwerthu drwy Cyfle Cymru yn Tŷ Pawb.

Mae Tŷ Pawb ei hun yn ffordd o gyflwyno’r rhaglen a phrosiectau cymunedol. Ynghyd â gwaith gan artistiaid a gwneuthurwyr lleol a chenedlaethol, rydym yn gwerthu ac yn cefnogi gwneuthurwyr cyswllt cymdeithasol fel Jolt, Granby Workshop, ac Arthouse Unlimited sy’n creu cynnyrch gyda golwg ganolog ar gynhwysiad cymdeithasol.

Mae busnesau menter gymdeithasol yn masnachu er mwyn mynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol, er mwyn gwella cymunedau, rhoi cyfle i bobl, neu i wella’r amgylchedd.

2018 – 2020

Rownd 3.

Comisiynwyd Tim Denton i gynllunio prototeip gwaith ar gyfer lusern pren wedi’w gweithgynhyrchu gan grŵp. www.timdenton.info

Cynhaliwyd y gweithdy gan Adam Netting, Technegydd yr Oriel, gyda chyfranogwyr o’r elusen leol Tŷ Hyrwyddwyr.

https://www.cais.co.uk/services/champions-house-recovery-hub

Mae Tŷ Hyrwyddwyr yn amgylchedd creadigol, gweithgar ac yn cefnogol bobl sydd wedi bod yn gaeth i gyffuriau neu alcohol ond sydd bellach yn ceisio gwella.

Dechreuodd y prosiect 14 wythnos cychwynnol ym mis Awst 2018 a’r adeg honno, bu John Davies a Graham Lloyd o Gymdeithas Hanes Wrecsam – yn rhoi gwybodaeth cefndirol am achub lusern wreiddiol’r 1930 a’i werth o ran treftadaeth ein cymuned. Daw cynllun y lusern o olau’r Hippodrome, sydd bellach wedi ei osod yn Arcêd y De yn Thŷ Pawb.

www.wrexham-history.com

Mae dros 20 lusern wedi cael ei gynhyrchu a’u werthu drwy Tŷ Pawb yn ystod ein siop dros dro yn The Good Life Experience – Penarlâg 2019.

Rownd 4.

Ar fore dydd Iau, bu cyfranogwyr Grŵp Dynion KIM4Him yn dysgu am hanes y lusern a chefndir y cynllun gan Tim Denton.

Byddai’r sesiynau dilynol yn annog pob aelod i greu ei lusern ei hun a chreu mwy o gyflenwad i’w werthu ond, yn anffodus wnaeth pandemig COVID-19 tarfu ar hynny. Y gobaith yw y bydd gweddill y sesiynau yn ailgychwyn unwaith y bydd yr orielau ar agor.

 https://kim-inspire.org.uk/kim4him/

Mae rhaglen adfer dynion KIM Inspire yn cefnogi dynion i wella eu lles drwy weithgarwch a chynhwysiant.

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google