
Arddangos cyfnewidiadau, celf a chreft.
Bwriad Tŷ Pawb yw cefnogi gwneuthyrwyr, artistiaid a chreftwyr o bob cefndir creadigol drwy ddod a’u gwaith i amlygrwydd yn ein cypyrddau gwneuthyrwr newydd.
Rydym yn rhoi cyfle i arddangos gwaith ein hartisitaid a gwneuthyrwyr preswyl sy’n gweithio’n annibynol a chyda ymwelwyr Tŷ Pawb i greu cynnyrch i’w gwerthu yn ein cypyrddau gwneuthyrwr.
Rydym yn perthyn i gymuned o fasnachwyr yn Tŷ Pawb sy’n rhan o gynllun ymchwil unigryw i’r cydfyw sydd rhwng celfyddyd a marchnadoedd o fewn un man diwylliannol eang.
Cafodd pobl leol profiad o weithio gyda Tŷ Pawb drwy prosiect Gwneuthurwr Dylunio i gynhyrchu y Llusern Hippodrome – sef cysgod lamp deiniadol sydd wedi ei blygu âstêm a’i dorri gyda CNC i’w gynhyrchu a’i werthu. Dylunwyd y lamp gan Tim Denton.
Mae ganddom hefyd ddewis cyfyngiedig o gemwaith, tecstiliau a cerameg ynghyd a dewis amrywiol o gylchgronau a chardiau cyfarch.
Sara Jane Harper
Mae’r CYPYRDDAU GWNEUTHURWR yn arddangos gwaith yr artist Sara Jane Harper, darlunydd a cheramegydd sy’n gweithio yn Nghogledd Cymru.
Ers iddi gwbwlhau Gradd Uwch ym Mhrifysgol Reading ym 1987 mae Sara Jane wedi parhau i greu gwaith â ysbrydolir gan symbolau cerameg a cherfluniau cyntefig.
Mae potiau a llestri a baentiwyd a llaw gan Sara Jane sy’n llawn lliw, tyder a hunaniaeth gan ymgorffori y dehongliad o’r ffurf benywaidd, y defnydd o symbolau haniaethol a dylanwad Tao i tyd yn personoli yn eglur gwaith unigryw Sara Jane.
Yn ogystal a’i gwaith celfyddydol mae Sara Jane wedi cynnal nifer o prosiectau celfyddydol a gweithdai i bobl o bob oed gan gynnwys cynhyrchu murluniau, mosäig, addurniadau cerameg a gwrthrychau a adeiladwyd â llaw.
Arddangosfa Crefftwyr Tŷ Pawb
Kirsti Hannah Brown
Caiff cerameg crochenwaith caled Kirsti wedi’u hadeiladu â llaw eu hysbrydoli gan ei chariad at draethlinau Celtaidd y Gorllewin a’r môr. Mae gyddfau ac ysgwyddau bach ei photeli slab yn cael eu creu gan ddefnyddio clai wedi’i rolio’n denau, gan roi siâp ffigur dynol i’r gwaith sy’n deillio o ddiddordeb Kirsti mewn “sut mae dyn wedi defnyddio’r dirwedd o’i gwmpas.” Mae’n defnyddio dull gwahanol gyda’i phowlenni a llestri yn defnyddio dull gwahanol o adeiladu lle caiff ‘mwydod’ o glai eu pinsio, eu coilio a’u llyfnhau i gynnig yr argraff o gerrig a chregyn wedi’u golchi. I ennyn lliwiau’r môr, mae pob darn wedi’i addurno yn ei stiwdio ym Mhenarlâg gan ddefnyddio cymysgedd o wydrau gwyrddlas, copr a gwyn, tra bod arlliwiau priddlyd yn cael eu creu trwy amrywiaeth o glai.
Mae Kirsti Hannah Brown yn aelod o Urdd Crefftwyr Cymru.



Maud Goldberg
Gan osod pobl a phensaernïaeth ein hamgylchedd, naturiol a threfol, wrth galon crefft a dylunio celf gyfoes, mae Maud Goldberg wedi dylunio ystod o gynhyrchion sydd wedi’u cynhyrchu gan ystod o ymarferwyr ac yn cynnwys motiffau braille sy’n drosiadau o’r lliwiau.
Wedi deillio o gomisiwn a ariannwyd gan Gyngor y Celfyddydau, cynhaliodd y prosiect weithdai ‘Ymdeimlad o Le’ a oedd yn croesawu gwahaniaeth ac amrywiaeth.



Rachel Holian
Mae gosodiadau Rachel o lestri a stampiau porslen bach a wnaed â throell yn archwilio perthnasoedd ac ystyr. Mae pob casgliad wedi’i grwpio mewn ffordd benodol i roi ystyr i grŵp penodol. Mae’r trefniant hwn yn bersonol i Rachel ond dylai fod yn gyseiniol gyda’r gynulleidfa a bydd yn tyfu ac yn datblygu ystyr dros amser. Mae’r gosodiadau yn eitemau gwerthfawr a’u bwriad yw dod â llawenydd a phrocio atgofion.
Mae Rachel wedi gweithio gyda phorslen ers graddio o Brifysgol Fetropolitan Manceinion yn 2005. Ar ôl cwblhau ei gradd Meistr mewn cerameg yn 2018, mae Rachel wedi bod yn cynhyrchu llestri a wnaed â throell sy’n archwilio pwysigrwydd y celfyddydau addurnol.
Yn ddiweddar, derbyniwyd Rachel i Gymdeithas fawreddog Crefft Crochenwyr Prydain Fawr.



Gwneuthurwr Dylunio
