Gwyliau Haf 2020

Efallai na fydd ein gweithgareddau gwyliau arferol i blant yn cael eu cynnal yn yr adeilad yr haf yma, ond nid yw hynny’n golygu nad oes gennym lwythi o weithgareddau cyffrous rhad ac am ddim i chi roi cynnig arnynt adref, neu yn yr ardd.

Celf Cymraeg

Bob dydd Mercher, byddwn yn rhannu taflen waith neu fideo gan artist sydd yn siarad Cymraeg, er mwyn i chi ymarfer eich Cymraeg wrth i chi fynd ati gyda’ch crefft! Mae pob gweithgaredd wedi’i ysbrydoli gan un o’n arddangosfeydd blaenorol.

22 Gorffennaf – Creu baner ffabrig wedi’i ysbrydoli gan ‘Wrecsam yw’r Enw’ Taflen waith ddwyieithog gyda’r artist Rebecca F Hardy.

29 Gorffennaf – Gwehyddu gwaith wedi’i ysbrydoli gan ‘Uptwist Downtwist’ i’w hongian ar y wal! Taflen waith ddwyieithog gyda’r artist Rebecca F Hardy.

5 Awst – Gwneud Robot Cymalog! Fideo Cymraeg (isdeitlau Saesneg) wedi’i ysbrydoli gan ‘Ar bapur’ gyda’r artist Paul Eastwood. Gwych i blant hŷn a phlant yn eu arddegau.

12 Awst – Crëwch collage wedi’i ysbrydoli gan ‘We Can Only See Today’! Fideo Cymraeg (isdeitlau Saesneg) gyda’r artist Rebecca F Hardy.

19 Awst – Creu eich ‘Wal Pawb’ bach eich hun! Crëwch hysbysfwrdd sydd yn troi trwy ddilyn fideo Cymraeg (is-deitlau Saesneg-gyda’r artist Paul Eastwood. Gwych i blant hŷn a phlant yn eu arddegau.

26 Awst – Dysgwch sut i wneud eich ‘gif’ eich hun! Fideo Cymraeg (isdeitlau Saesneg) wedi’i ysbrydoli gan ‘Wal Pawb’ gyda’r artist Paul Eastwood. Gwych i blant hŷn a phlant yn eu arddegau.

Eginblanhigion

Bob dydd Gwener byddwn yn rhannu taflen waith gweithgareddau sydd yn ennyn diddordeb mewn plant mewn gerddi, tyfu a’r awyr agored. Gyda’r artist Sophia Leadill. 

24 Gorffennaf – Creu Cymeriadau Gwair y Cyfnod Clo sydd angen Torri eu Gwallt!

31 Gorffennaf – Creu Gardd Bychan!

7 Awst – Creu Tŷ Gwydr gyda Pot Planhigion!

14 Awst – Creu Clychau Gwynt!

21 Awst – Dod yn Dditectif Natur!

28 Awst – Creu Bwyty Bwyd Cyflym i Adar!

Aseiniadau Creadigol

Positivity Press

Mae Rhi Moxon yn dangos pum prosiect print cadarnhaol inni yn y tiwtorialau fideo hwyliog hyn.

Map Plygu Twrcaidd
Argraffu Llysiau
Rhwymo Llyfr Argraffu
Printio Sgrin
Baner Concertina

The Global Village

Mae Ruth yn eich gwahodd i ychwanegu eich cartref eich hun yn ‘The Global Village’, gofod unigryw sy’n bodoli i ddathlu ein hunain a’n cymuned leol, ac i rannu’r hyn yr ydym am gymryd hefo ni i’r byd y tu hwnt i’r cyfnod cloi-i-lawr.

Ymuno! 

Dadlwythwch y templedi:

Byngalo
Fflatiau
Drysau
Ffenestri
Carafan
Cychod ty
Gyd
E-bostiwch eich celf atom: art.globalvillage@gmail.com

Cofiwch y gallwch ddefnyddio Wetransfer.com os yw’ch ffeiliau’n rhy fawr i’w e-bostio.

Ewch i ‘The Global Village’:
Sesiwn Ar-lein 1: 01/08/20
Sesiwn Ar-lein 2: 15/08/20

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google