David Setter
Fe wnaethon ni ddal i fyny â David Setter, sydd â gwaith celf yn Arddangosfa Agored Tŷ Pawb o’r enw ‘Covids Diary 19’, a gofyn ychydig o gwestiynau iddo…
O ble rydych chi’n dod?
Rydw i’n dod o’r Wyddgrug yn Sir y Fflint; rydw i wedi symud i ffwrdd sawl gwaith, ond rydw i wastad yn dychwelyd adre yma. Rydw i wrth fy modd gyda’n cefn gwlad, gyda’r bonws ychwanegol o gael mynediad rhwydd at Lerpwl, Manceinion a Chaer.
Ers pa mor hir ydych chi wedi bod yn gweithio fel artist?
Mi wnes i raddio o Brifysgol Glyndŵr yn Wrecsam gyda BA Anrhydedd mewn darlunio yn 2004. Roeddwn i’n weldio cyn i mi fynd yn ôl i’r Brifysgol. Rydw i wedi cymysgu peirianneg a bod yn ddarlunydd llawrydd ers hynny i ddweud y gwir.
Fel rhan o’m taith ers hynny, rydw i wedi gweithio ar ddelweddau i gleientiaid gwych, gan weithio ar bopeth o farchnata mewnol i ddwdlan dros waliau! Rydw i hefyd yn creu cerfluniau gan ddefnyddio metel. Rydw i’n gobeithio cael fy ngweithdy weldio celf fy hun yn y dyfodol, rydw i’n hoffi baeddu fy nwylo.
Sut mae’r cyfnod clo wedi effeithio ar y ffordd rydych yn gweithio?
Wel, ar ddechrau’r cyfnod clo, roedd yn teimlo’n ddiymadferth. Cafodd pob un o’m gweithdai ar gyfer plant eu canslo, a dechreuodd dyddiadur gwaith cymharol iach edrych yn eithaf anobeithiol mwya’ sydyn. Roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl, ond doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w greu. Dyna pryd y penderfynais i wneud rhywbeth, unrhyw beth drwy fy ngwaith celf i greu canlyniad positif. Dyma oedd dechrau #covidsdiary19; penderfynais y byddwn yn cadw cofnod weledol o ddigwyddiadau bob dydd y cyfnod clo, bod adref gyda fy ngwraig, dau o blant a Labrador! Roedd yn benderfyniad gwych, rhoddodd y ddisgyblaeth i ddarlunio bob dydd a chodi calonnau pobl drwy anfon negeseuon dyddiol ar gyfryngau cymdeithasol. Darluniais ar y dyddiad cywir yn fy nyddiadur bob dydd am saith deg dau o ddiwrnodau. Roedd yn brofiad positif iawn.
Ble rydych chi’n cael y pleser mwyaf yn eich ymarfer?
Os gallwn i lapio’r cwestiwn yna mewn dim ond un ateb, byddwn yn dweud fy mod wrth fy modd gyda her greadigol, problem weledol i’w datrys.
Gan fy mod i hefyd yn cynhyrchu nifer o baentiadau wedi eu comisiynu’n breifat yn ogystal â’m gwaith darlunio, rydw i wrth fy modd yn gweld ffotograffau o’m gwaith yn hongiad yng nghartrefi pobl. Rydw i’n meddwl mai dyma’r pleser a’r boddhad mwyaf rwy’n cael o fy ngwaith fel artist.
Pa argraff ydych chi eisiau i’ch gwaith ei greu ar gynulleidfaoedd?
Rwy’n hoffi cael elfen o hiwmor yn rhedeg drwy fy ngwaith. Mae llawer o’n dyluniadau o gymeriadau yn cynnwys emosiwn dynol go iawn wedi ei gyflwyno mewn arddull tebyg i blant.
Mae haenau o ddyfnder yn fy ngwaith nad ydynt bob amser yn amlwg yn syth ar yr olwg gyntaf. Rydw i wedi dysgu i osgoi cael gormod o hunanfoddhad yn fy ngwaith ac agor pethau i gynulleidfaoedd llawer ehangach.
Dydw i ddim yn bod yn rhy o ddifrif am fy ngwaith, ac yn hoffi dychmygu y gall y gynulleidfa berthnasu fy ngwaith a’r ffordd rwy’n gweld y byd a chael moment ‘o ia’