Mae Criw Celf yn cynnig cyfle i bobl ifanc (9 i 14 oed) sy’n caru celf, i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr dan arweiniad artistiaid yn ystod gwyliau’r haf dros gyfnod o 6 diwrnod yn olynol.

Mae ein rhaglen o weithdai arbenigol yn cael ei chyflwyno wyneb yn wyneb yn Tŷ Pawb gydag artistiaid proffesiynol, ac yn cynnig cyfleoedd i gyfranogwyr ddatblygu sgiliau   creadigol newydd a dealltwriaeth o gelf a chrefft weledol. Yn ogystal â chwrdd â ffrindiau newydd sydd hefyd yn mwynhau celf hefyd!

  • Dyddiadau: wythnos yn dechrau 25ain Gorffennaf
  • Trip Maes: Gwahoddir cyfranogwyr i fynychu taith maes 1 diwrnod i brofiad celf ym mis Awst 2022.
  • Pris: £38 am 6 diwrnod o weithdai yn Tŷ Pawb gan gynnwys yr holl ddeunyddiau celf sydd eu hangen arnoch i gymryd rhan! Bwrsariaethau ar gael
  • Diwrnod olaf i gofrestru – dydd Gwener 15fed Gorffenaf

Gwnewch gais i: natasha.borton@wrexham.gov.uk am ragor o fanylion

Mae Criw Celf yn brosiect ar gyfer artistiaid ifanc ym mlynyddoedd ysgol 5 i 9. Mae’n rhan o gynllun cenedlaethol i feithrin talent ifanc yn y Celfyddydau gweledol ac mae’n cael ei    ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

I oed 15-17

Mae Portffolio yn cynnig cyfle i bobl ifanc (15 i 17 oed) sydd wrth eu bodd â chelf gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr dan arweiniad artistiaid yn ystod gwyliau’r haf dros gyfnod o 3 diwrnod yn olynol.

Mae ein rhaglen o weithdai arbenigol yn cael ei chyflwyno’n bersonol yn Tŷ Pawb gydag artistiaid proffesiynol, ac yn cynnig cyfleoedd i gyfranogwyr ddatblygu sgiliau creadigol newydd a dealltwriaeth o gelf weledol a chrefft. Yn ogystal â chwrdd â ffrindiau newydd sydd hefyd yn mwynhau celf hefyd!

Profwch amrywiaeth o dechnegau megis gwneud printiau, crefft papur, dylunio cymeriadau, tecstilau a dyfrlliwiau.

Taith Maes: Bydd cyfranogwyr yn cael eu gwahodd i fynd ar daith maes 1 diwrnod i brofiad celf ym mis Awst 2022.

3 dyddiad ar gael: 1af – 3ydd Awst, 4ydd – 6ed Awst, 8fed – 10fed Awst

Cost: £38 am 3 diwrnod o weithdai yn Tŷ Pawb gan gynnwys yr holl ddeunyddiau celf sydd eu hangen arnoch i gymryd rhan! Bwrsariaethau ar gael

Gwnewch gais i: natasha.borton@wrexham.gov.uk am ragor o fanylion

Y DYDDIAD CAU ar gyfer cofrestru yw dydd Gwener, 22 Gorffenaf gais yn gynnar i sicrhau lle.

Mae Portffolio yn brosiect ar gyfer artistiaid ifanc ym Mlynyddoedd 10 i 13 mewn oedran ysgol. Mae’n rhan o gynllun cenedlaethol i feithrin talent ifanc yn y Celfyddydau gweledol ac yn cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.