Wrexham Souvenirs Project

Ym mis Tachwedd 2017, i gyd-fynd â’r Arddangosfa Dyma Wrecsam, dewiswyd chwe artist i ddatblygu cofrodd bob un a’r rheiny wedi eu dylanwadu gan ffigwr dylanwadol neu chwedloniaeth sy’n ganolog i Wrecsam.

Y cyhoedd ddewisodd y chwe stori a ysbrydolodd y cofroddion, allan o restr hir o 25 o ddewisiadau.

Bedwyr Williams – Wrecsam yw’r Enw – Clwb Pêl droed Wrecsam

Mae Bedwyr Williams yn artist o Abergele sy’n enwog yn rhyngwladol. Mae cofrodd Bedwyr yn ddathliad o dreftadaeth pêl droedio Wrecsam ar ffurf sgarff pêl droed traddodiadol. Mae’r sgarff yn cynnwys geiriau o hoff gân Wrecsam, a dyma ysbrydolodd deitl yr arddangosfa: “Wrecsam yw’r Enw”.

Mae Wrecsam yn llawn treftadaeth pêl droed ac yn gartref i’r stadiwm pêl droed rhyngwladol hynaf – Y Cae Ras a agorwyd ym 1807 ac sy’n dal i gynnal gemau. Hefyd, sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn Wrecsam ym 1876 yng Ngwesty’r Wynnstay Arms.

Mae Marcus Orlandi yn artist ac yn ymgyrchydd sydd wedi ei sefydlu ei hun yn Llundain. Cafodd ei ddylanwadu gan berthynas Wrecsam â’r Gymraeg, a chreodd Marcus faner gyda’r slogan “Mother Tafod” arni. Mae’r neges hon yn cyfuno geiriau Cymraeg a Saesneg i dynnu sylw at y ffaith fod siaradwyr y ddwy iaith yn byw ochr yn ochr yn Wrecsam.

Mae crysau T slogan ‘Mother Tafod’ ar gael yn siop yr oriel.

Marcus Orlandi – Mother Tafod –
Iaith a siaredir mewn tref ar y ffin

Nicholas Pankhurst – Cloch Burma

Ffiwsilwr Brenhinol Cymreig

Datblygodd yr artist sydd wedi ei sefydlu ei hun yn Llundain, gannwyll ar ffurf Cloch Burma. Mae’r gannwyll yn llosgi i ddatgelu copi metel o Deml yr ‘Incomparable Pagoda’ yn Mandalay.

Ym 1885, daethpwyd â’r clychau pres o’r Deml Fwdhaidd, i’r wlad hon wrth i Fataliwn 1af y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ddychwelyd o Ryfel Burma. Cyrhaeddodd un o’r clychau gwych yma Wrecsam. Heddiw, mae’r gloch i’w gweld ym Modhyfryd, yng Ngardd Burma, cofeb i nifer fawr o’r ardal a fu farw yn y dwyrain pell yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae John Merrill yn gerflunydd sydd wedi ei leoli yng Ngogledd Cymru ac mae’n gweithio’n bennaf gyda choed derw. Gweithiodd John ar syniad o’r enw ‘Cemeg Caredigrwydd’. Mae hwn yn gyfeiriad at garedigrwydd a haelioni Marjorie Dykins a sefydlodd elusen o Wrecsam – Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam. Gweithiodd Marjorie fel cemegydd gan ennill ysgoloriaeth i astudio biocemeg ym Mhrifysgol Rutgers, UDA yn ystod y 1950’au.

Mae Marjorie yn cynrychioli cymaint o bobl sy’n gwirfoddoli cymaint o’u hamser er budd eu cymunedau yn Wrecsam.

John Merrill – Marjorie Dykins OBE DNA Caredigrwydd

Martha Todd – Croeso Wrecsam – Undod mewn Chwaraeon

Daw’n wreiddiol o ardal Wrecsam ond bellach, Llundain yw lleoliad yr artist ceramig Martha Todd. Cofrodd Martha yw potel ddŵr a set o gwpanau, ac fe’i ysbrydolwyd gan y ffaith fod Wrecsam yn dref groesawgar. Roedd y stori’n canolbwyntio i gychwyn ar Gaye Jacobsen, sy’n croesawu ymwelwyr yn rheolaidd o bell ac agos i aros i’w chartref. Cynhwysodd Martha glwb pêl droed y Bellevue yn ei hymchwil hefyd. Mae tîm pêl droed aml-ethnig y Bellevue a’i gartref ym Mharc Bellvue yn y dref, ac mae’n croesawu chwaraewyr o grwpiau du ac o leiafrifoedd ethnig. Mae’r botel a’r cwpanau wedi eu haddurno â’r geiriau ‘Un Corff’ yn y gwahanol ieithoedd a siaredir gan chwaraewyr y clwb.

Mae Sophia Leadill yn artist ac addysgwr sydd wedi ei lleoli yn Wrecsam. Ar gyfer ‘Wrecsam yw’r Enw’ gweithiodd Sophia gydag amryw o artistiaid a grwpiau cymunedol i ddatblygu llyfr lliwio ar thema Wrecsam ‘Llyfr Gweithgareddau a Lliwio Pawb’. Mae’r llyfr wedi ei ysbrydoli gan nifer o wneuthurwyr sy’n byw ac yn gweithio yn Wrecsam ar hyn o bryd a chafodd ei ddatblygu drwy gyfrwng nifer o weithdai a gynhaliwyd ar draws Wrecsam o Gwersyllt i Lannerch Banna. Mae’n arbennig ar gyfer pobl Wrecsam. Mae gan Wrecsam hanes o grefft a diwydiant, o wneud briciau i bapur.

Sophia Leadill – Y Dref Sy’n Gwneud – Creu Cydweithredol

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google